Teyrngedau i gyn-Gadeirydd Cyngor Sir Ceredigion, Paul Hinge
Mae teyrngedau wedi eu rhoi i Paul Hinge, oedd yn gynghorydd a chyn-Gadeirydd Cyngor Sir Ceredigion.
Roedd wedi cynrychioli ward Tirymynach ers 2008, a bu’n Gadeirydd y Cyngor rhwng 2021 a 2022.
Yn ystod ei 16 mlynedd o wasanaeth i drigolion Ceredigion, bu’r Cynghorydd Hinge hefyd yn gadeirydd ar nifer o bwyllgorau, gan gynnwys y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau sy’n Dysgu, y Pwyllgor Cydlynu Trosolwg a Chraffu, a'r Pwyllgor Ymddiriedolwyr Elusennau.
Dywedodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion: “Mae’n ddrwg gennym glywed am farwolaeth y Cynghorydd Paul Hinge. Fel Cynghorydd, gwasanaethodd ei ward yn ddyfal, ac roedd yn wyneb cyfeillgar i drigolion Ceredigion. Hoffem estyn ein cydymdeimlad dwysaf i deulu a ffrindiau agos Paul.”
Wrth roi teyrnged, dywedodd Eifion Evans, Prif Weithredwr y Cyngor: “Rydym wedi ein tristau’n fawr o golli’r Cynghorydd Paul Hinge. Mae ei ymrwymiad diwyro fel Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog yng Ngheredigion a’i wasanaeth rhagorol fel cyn-Gadeirydd y Cyngor wedi bod o fudd mawr i’n cymuned.
"Roedd y Cynghorydd Hinge yn eiriolwr angerddol dros Gyn-filwyr y Lluoedd Arfog ac yn Gynghorydd uchel ei barch a oedd bob amser yn blaenoriaethu lles trigolion Ceredigion.
"Rydym yn cydymdeimlo’n fawr iawn gyda’i deulu yn ystod y cyfnod heriol hwn.”