Plentyn wyth oed ag anafiadau difrifol wedi ymosodiad gan gi yng Nghaernarfon
Plentyn wyth oed ag anafiadau difrifol wedi ymosodiad gan gi yng Nghaernarfon
Rhybudd: Gallai'r disgrifiadau yn yr erthygl hon beri loes
Mae nain i fachgen wyth oed wedi bod yn disgrifio'r foment pan sylweddolodd fod ci yn ymosod ar ei hŵyr yng Nghaernarfon ddydd Sul.
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi dweud bod gan y plentyn anafiadau allai newid ei fywyd.
Mae gŵr 44 oed wedi ei arestio ar amheuaeth o fod yn berchen ar gi peryglus oedd allan o reolaeth gan achosi anaf.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Stryd Penrallt Uchaf yn y dref am 11.00 fore Sul.
Cafodd y plentyn o'r enw Caio ei gludo i ysbyty Alder Hey yn Lerpwl, lle mae'n cael triniaeth.
Dywedodd Nain Caio, Ruth Ann Jones, wrth BBC Cymru: "O'n i'n gweld fel o'n i'n mynd i fyny fod y ci 'ma efo clust Caio yn ei geg. Wedyn o'n i'n trio pwsho'r ci a cicio'r ci a oedd y ci yn cau symud.
"Mi ath bawd Caio wedyn yn ei geg ag oedd o'n llusgo Caio ar y llawr, llusgo fo - 'sa chdi'n taeru mai babi dol oedd o a ma' Caio'n pwyso chwech stone.
"Duw a helpo ni os oedd 'na blentyn bach yna ia, so be nesh i oedd gafa'l yn Caio a lluchio fo yn erbyn wal, wel dragio fo, a roid o yn erbyn wal, a rhoi fy nghorff i dros fo because o'n i'n gwbod os 'sa Caio wedi cerdded lawr stryd 'sa'r ci 'ma 'di dal o a 'swn i byth wedi gallu dal Caio mewn digon o amsar a 'sa fo 'di rowlio lawr a fysa 'na fwy o olwg ar Caio bach.
"Doedd y ci ddim isio fi ond a'th o ar fy nghefn i i drïo dragio fi o 'na i fo gal mynd at Caio 'nde."
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Richard Griffith: “Fe wnaeth y digwyddiad achosi pryder i’r gymuned leol ac fe fydd presenoldeb yr heddlu yn amlwg yn yr ardal er mwyn tawelu meddwl unigolion.
“Mae ein hymchwiliadau yn parhau ac rwyf yn apelio ar unrhyw un a welodd y digwyddiad, neu sydd efallai â lluniau ohono, i gysylltu â’r heddlu.
“Rydym yn parhau i gefnogi teulu’r plentyn yn ystod y cyfnod trawmatig hwn ac yn gofyn i’w preifatrwydd gael ei barchu.”
Cafodd y ci ei ddifa yn dilyn y digwyddiad. Mae disgwyl cadarnhad ynglŷn â brîd y ci.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth am y digwyddiad gysylltu â’r heddlu gan ddyfynnu'r cyfeirnod Q119639.