Newyddion S4C

Arestio dau wedi i ddyn farw mewn tân yn Sir Ddinbych

12/08/2024
Stryd Fawr, Prestatyn
Mae dau ddyn lleol wedi eu harestio ar ôl i ddyn farw mewn tân mewn eiddo masnachol yn Sir Ddinbych yn ystod oriau mân fore Llun.
 
Fe gafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu galw i Stryd Fawr Prestatyn am 02.35, gan anfon criwiau o Brestatyn, Y Rhyl a Llanelwy i’r lleoliad.
 
Mae ymchwiliad ar y cyd rhwng Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Heddlu Gogledd Cymru ar y gweill i ddarganfod achos y tân.
 
Dywedodd Prif Uwcharolygydd Heddlu Gogledd Cymru, Simon Williams: “Rydym wedi arestio dau ddyn lleol sy’n cynorthwyo gyda’n hymholiadau, ond rydym yn cadw meddwl agored ynglŷn â’r amgylchiadau ar hyn o bryd. 
 
“Byddwn yn annog y cyhoedd i beidio â dyfalu nes bod y ffeithiau llawn yn hysbys. Rydym yn cynorthwyo cydweithwyr o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn lleoliad y digwyddiad i ddeall achos y tân. 
 
“Does dim byd i awgrymu bod y digwyddiad hwn wedi’i ysgogi gan hiliaeth beth bynnag. Mae ein meddyliau gyda theulu’r dyn ar yr adeg drist hon.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.