Newyddion S4C

Y Cymro Jeremiah Azu yn ennill medal efydd yn y ras gyfnewid

09/08/2024
Jeremiah Azu

Mae’r athletwr o Gaerdydd, Jeremiah Azu, wedi ennill medal efydd yn y Gemau Olympaidd ym Mharis.

Roedd y Cymro yn rhan o dîm ras gyfnewid Prydain a orffennodd yn drydydd yn y ras 4 x 100 medr yn y Stade de France nos Wener.

Azu, 23 oed, rhedodd cymal agoriadol y ras dros Brydain, gyda Louie Hinchliffe, Nethaneel Mitchell-Blake a Zharnel Hughes hefyd yn y tîm.

Canada enillodd y ras i gymryd y fedal aur, gyda thîm De Affrica yn cipio'r fedal arian.

Daw llwyddiant Azu llai nag wythnos wedi iddo gael ei diarddel o’r ras 100 medr unigol, ar ôl iddo ymateb yn rhy gyflym i’r gwn ar ddechrau’r rhagras gyntaf.

Ef yw'r Cymro cyntaf i redeg 100m mewn llai na 10 eiliad, a hynny gydag amser o 9.97 ym mis Mai yn Yr Almaen.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.