Grantiau Covid-19: Un o bob 10 cais yn Abertawe yn 'dwyllodrus'

Roedd mwy nag un o bob 10 cais am grantiau ariannol Covid-19 gafodd eu cyflwyno i Gyngor Abertawe yn dwyllodrus, yn ôl Nation Cymru.
Mae ceisiadau am chwe chynllun cymorth Covid-19 gwahanol wedi’u rhestru mewn adroddiad fydd yn cael ei gyflwyno i Bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio'r cyngor ddydd Mawrth nesaf.
Roedd 357 o’r 3,393 o'r ceisiadau gafodd eu gwneud yn 2020-21 wedi eu gwrthod ar sail twyll – ac roedd cyfanswm y ceisiadau hyn yn £720,500.
Cafodd ychydig yn llai na dwy ran o dair o’r ceisiadau dilys eu cymeradwyo, gyda chwarter y ceisiadau dilys yn cael eu gwrthod gan eu bod yn wallus.
Darllenwch y stori’n llawn yma.