Newyddion S4C

Dehongliad newydd o gampwaith Evan a James James i gloi'r Eisteddfod Genedlaethol

Dehongliad newydd o gampwaith Evan a James James i gloi'r Eisteddfod Genedlaethol

A hithau'n arferiad yng Nghymru i ganu Hen Wlad fy Nhadau ar ddiwedd achlysur arbennig, fe fydd yr Eisteddfod yn mynd gam ymhellach wrth gloi'r Brifwyl eleni. 

Bydd gwaith cerddorol newydd yn cael ei berfformio o'r enw 'Gwlad Gwlad', a hynny o dan arweiniad y cyfansoddwr Eilir Owen Griffiths. 

Y bwriad ydy dathlu campwaith Evan a James James, y tad a'r mab o Bontypridd. 

Bydd ensemble o gantorion talentog, i gyd yn gyn-enillwyr, yn ymuno â grŵp siambr o Sinffonia Cymru a Cherddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru i ganu geiriau beirdd lleol sef Aneirin Karadog, Delwyn Siôn, Christine James a Mari George. 

Bydd Cai Fôn, Celyn Cartwright, Gwïon Morris Jones, Meinir Wyn Roberts, Llinos Haf Jones, Eirlys Myfanwy, Meilir Jones a Huw Aeron yn perfformio'n unigol ac yn canu gyda'i gilydd.

'Mamau' yn bwysig hefyd

Dywedodd Eilir Owen Griffiths: "Mae gennym ni anthem sy'n cynhyrfu'r gwaed, mae gyda'r gorau yn y byd ac mae ei chanu wastad yn angerddol. 

"Mae’r gwaith newydd yma’n ceisio ail-greu'r cynnwrf gydag adrannau rhythmig sy’n gwthio'r lleisiau.

"Mae'r beirdd wedi dewis un gair a chanolbwyntio eu cerddi ar hynny. Mae Mari George, er enghraifft, wedi dewis y gair 'Rhyddid' ac mae ei cherdd yn son am bwysigrwydd sefyll ar ein pen ein hunain. Mae'r gerddoriaeth yn werinol ac anthemig.

"Dewisodd Aneirin Karadog ganolbwyntio ar y gair 'Bydded' gyda'r gair yn cael ei ail-adrodd drosodd a throsodd ac mae'r gerddoriaeth yn ffanfferig.

"Mae geiriau Christine James yn fendigedig wrth iddi ystyried y geiriau 'Gwlad fy Nhadau' ac yn ein hatgoffa fod 'Mamau' yn bwysig hefyd, gan sôn am ystod o fenywod sy'n cynnwys Gwenllian a Shirley Bassey.

"’Gwlad’ oedd dewis Delwyn Siôn gyda hyn yn gyfle i gamu’n ôl i fyd alawon gwerin a chwedlau ac mae'r gerddoriaeth yma'n arwain yn uniongyrchol at yr anthem. 

"Rydw i wedi ail-drefnu'r anthem ond nid fersiwn newydd mohoni. Y gobaith yw fy mod i wedi adeiladu ar yr hyn sy’n bodoli’n barod gyda harmonïau newydd."

Bydd ‘Gwlad Gwlad!’ yn dechrau yn y Pafiliwn am 19:30 nos Sadwrn gan gloi Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.