Prisiau tai Cymru'n cynyddu'n gynt nag unrhyw le arall yn y DU

Mae prisiau tai yng Nghymru yn cynyddu’n gyflymach nag unrhyw genedl arall yn y DU, yn ôl ymchwil newydd gan gymdeithas adeiladu'r Halifax.
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae prisiau tai wedi cynyddu 12%, gan godi'r gost gyfartalog i £192,507, sy'n dal i fod yn is na chyfartaledd y DU o £260,358.
Y cynnydd yma yw'r cynnydd blynyddol mwyaf ers Ebrill 2005, yn ôl yr Halifax.
Mae hyn yn ddarlun gwahanol i weddill y DU a welodd brisiau tai ar gyfartaledd yn gostwng am y tro cyntaf ers mis Ionawr 2021.
Yn ôl ymchwil yr Halifax, mae hyn yn dangos bod yr "uchafbwynt yn y galw gan brynwyr yn debygol o fod wedi mynd heibio".
Ar gyfartaledd, roedd gwerth tai yn dal i fod dros £21,000 yn uwch nag ar yr un adeg y llynedd, meddai’r gymdeithas adeiladu.
Sut mae hyn yn cymharu gyda gweddill y DU?
12% o gynnydd yng Nghymru
11.5% o gynnydd yng Ngogledd Iwerddon
10.4% o gynnydd yn Yr Alban
Ar gyfer Gogledd Iwerddon a'r Alban, mae’r cynnydd ym mhrisiau blynyddol eiddo ar eu huchaf ers diwedd 2007.
Mae de Lloegr yn parhau i weld effaith y cynnydd hefyd, gyda dwyrain Lloegr a’r de ddwyrain yn cofnodi cyfradd chwyddiant o tua 7%, meddai'r Halifax.
Yn Llundain, roedd gwerth tai wedi cynyddu 2.9% yn unig flwyddyn ar ôl blwyddyn, gyda sawl ffactor unigryw yn effeithio ar y farchnad yno.
Wrth drafod prisiau tai yn y DU yn gyffredinol, dywedodd llefarydd ar ran yr Halifax: "Byddwn yn dal i ddisgwyl i dwf blynyddol arafu rhywfaint mwy erbyn diwedd y flwyddyn, a disgwylir i ddiweithdra dyfu’n uwch wrth i fesurau cymorth swyddi ymlacio, ac mae’r uchafbwynt yn y galw gan brynwyr bellach yn debygol o fod wedi pasio."
Dywedodd Mark Harris, prif weithredwr cwmni SPF Private Clients: "Bydd benthyca rhad a fforddiadwy yn parhau i roi mwy o bŵer prynu i brynwyr, ac yn arwain at alw parhaus, hyd yn oed os yw brig y farchnad wedi mynd heibio."
Dyma brisiau cyfartalog a’r cynnydd blynyddol ledled y DU, yn ôl Halifax:
Cymru, £192,507, 12.0%
Dwyrain Canolbarth Lloegr, £214,542, 8.6%
Dwyrain Lloegr, £303,834, 7.6%
Llundain, £511,234, 2.9%
Gogledd Ddwyrain Lloegr, £152,989, 9.2%
Gogledd Orllewin Lloegr, £201,836, 11.5
Gogledd Iwerddon, £163,484, 11.5%
Yr Alban, £183,359, 10.4%
De Ddwyrain, £353,618, 7.3%
De Orllewin Lloegr, £269,142, 9.8%
Gorllewin Canolbarth Lloegr, £221,661, 8.1%
Efrog a Humber, £185,229, 10.9%