Ansicrwydd am gêm y Llewod wedi prawf Covid-19 positif

Warren Gatland
Mae ansicrwydd a fydd gêm y Llewod yn erbyn y Sharks nos Fercher yn mynd yn ei blaen yn dilyn achos positif o Covid-19.
Mae aelod o dîm rheoli'r Llewod wedi profi'n bositif am y feirws, gyda dau chwaraewr a dau aelod o staff yn gorfod hunanynysu o ganlyniad.
Ers hynny, mae pawb sy'n rhan o daith y Llewod wedi derbyn profion PCR.
Fe fydd tynged y gêm yn dibynnu ar ganlyniadau prawf negyddol, yn ôl WalesOnline.
Os mae'r gêm yn mynd yn ei blaen, fe fydd y gic gyntaf am 7 o'r gloch nos Fercher (amser y DU) yn hytrach na 6 o'r gloch fel oedd i fod.
Darllenwch y stori'n llawn yma.
Llun: Asiantaeth Luniau Huw Evans