Gwobr anrhydeddus i win o Gymru

The Guardian

Mae gwinllan yn Sir Fynwy wedi cipio gwobr anrhydeddus am ei gwin.

Pinot noir Gwinllan White Castle, gwin coch sy'n costio £25.50 y botel, yw'r gwin cynhaeaf cyntaf o Gymru i ennill medal aur yng Ngwobrau Gwin y Byd Decanter.

Mae'r enillwyr, Robb Merchant, sy'n gyn-bostfeistr, a'i wraig Nicola, sy'n gyn-nyrs, wedi disgrifio'r fuddugoliaeth fel un "ffantastig".

Fe wnaeth y cwpwl brynu cae ger eu heiddo yn 2008 a phlannu 4,000 o goed gwinwydd. Bellach, mae ganddynt 7,000 o goed ac yn cynhyrchu 10,000 o boteli bob blwyddyn.

Mae'r gystadleuaeth wedi gwobrwyo 635 o winoedd gyda medalau aur, gyda'r beirniaid wedi blasu dros 18,000 o winoedd o 56 o wledydd gwahanol.

Darllenwch y stori'n llawn yma.