Presenoldeb 'amlwg' yr heddlu ar draws gogledd Cymru yn dilyn ymosodiad Southport
Fe fydd mwy o bresenoldeb yr heddlu ar draws gogledd Cymru yn dilyn ymosodiad Southport, medd Heddlu Gogledd Cymru.
Fe fydd swyddogion yn cynnal “patrolau amlwg” ar draws yr ardal dros y penwythnos “i dawelu meddwl y cyhoedd” meddai’r llu.
Dywedodd y llu: “Yn dilyn digwyddiadau’r wythnos hon yn Southport, a sawl digwyddiad dilynol ledled y wlad, bydd ein swyddogion yn cynnal patrolau amlwg ar draws ardal y llu y penwythnos hwn i dawelu meddwl y cyhoedd.
“Rydym yn parchu’r hawl ddemocrataidd i brotestio, fodd bynnag byddem yn annog unrhyw un sy’n arfer yr hawl honno i wneud hynny’n heddychlon.
“Gall unrhyw un sy’n mynychu protest neu’n bresennol yn dilyn protest ac sy’n ymddwyn mewn modd treisgar, bygythiol neu afreolus ddisgwyl cael eu trin yn unol â chyfraith droseddol a phwerau’r heddlu.”