Newyddion S4C

'Cyfle unwaith mewn oes': Pobl Pontypridd yn harddu'r ardal

'Cyfle unwaith mewn oes': Pobl Pontypridd yn harddu'r ardal

Wrth i’r Eisteddfod Genedlaethol ddod i Bontypridd am y tro cyntaf ers 1893 mae nifer o drigolion lleol wedi bod wrthi am fisoedd yn harddu’r ardal.

Yn eu plith, mae grŵp o bobl ym mhentref Efail Isaf wedi bod yn cymryd rhan mewn prosiect harddu. 

Maen nhw wedi bod yn gweithio gyda’i gilydd yn dylunio a phaentio nifer o arwyddion sydd wedi cael eu codi o amgylch y fro. 

Mae disgyblion o Ysgol Garth Olwg; Elliw, Mari, ac Anwen wedi bod yn helpu yng nghapel pentref Efail Isaf. 

 “Ry’n ni’n addurno’r ardal i arddangos i bobl ein bod ni’n browd bod yr Eisteddfod wedi dod i Bontypridd,” meddai Anwen.

“Mae’n neis i gael Eisteddfod mor agos oherwydd, pan rydych chi’n teithio i Eisteddfod, dy’ch chi ddim yn sylweddoli cymaint o buzz sydd o gwmpas,” meddai Elliw, disgybl arall o’r ysgol Gymraeg leol. 

Dywedodd Mike West sy’n rhan o’r criw fu wrthi’n harddu yn Efail Isaf: “Mae’r merched wedi bod yma ers wythnosau yn gwneud oriau o baentio paledi, yn ogystal â nifer o drigolion eraill yn yr ardal, a busnesau hefyd sydd wedi bod yn estyn help llaw i baratoi."

Wrth gyrraedd y Maes eleni, bydd ymwelwyr yn cael eu croesawu gan arwyddion ‘Rhondda Cynon Braf,’ Yr Orsedd yn gwneud y ‘Conga’, a nifer o ddreigiau, gan gynnwys rhai sydd wedi eu gwneud o hen deiars.

Image
Kookoo Madame
Kookoo Madame

‘Eisiau dychwelyd'

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn rhagweld bydd 160,000 o bobl yn ymweld â Phontypridd yn ystod wythnos yr Eisteddfod, ac yn rhoi hwb o £16 miliwn i’r economi leol.

Gyda’r gobaith o hwb economaidd, mae busnesau lleol hefyd wedi bod yn cymryd rhan mewn cystadleuaeth sy’n gydweithrediad rhwng ‘Your Ponty’ a’r Eisteddfod er mwyn creu'r arddangosfa eisteddfodol orau yn eu ffenestri.

Ymysg y busnesau sydd wedi cymryd rhan mae Bizzie Lizzie, KooKoo Madame, a ‘Martha’s Homestore’.

Image
Martha's Homeware
Martha's Homestore

Bizzie Lizzie ddaeth yn fuddugol a dywedodd perchennog y siop, Alannah Hughes: “Dwi wedi cymryd rhan yn y gystadleuaeth gan fod yr Eisteddfod yn gyfle unwaith mewn oes i mi a fy musnes. 

“Dwi’n gobeithio y byddwn ni fel busnes yn elwa ar nifer yr ymwelwyr newydd ac yn cwrdd â wynebau newydd o bell ac agos fydd eisiau dychwelyd i Bontypridd am flynyddoedd i ddod.”

Daw’r addurniadau yn ffenestr Bizzie Lizzie o arwerthiant cist car yn ne Cymru, lle mae Alannah a’i theulu yn ymweld yn wythnosol. 

Roedd y ffenestr wedi cael ei phaentio gan Naomi Davies, menyw ifanc leol, a thad Alannah wnaeth helpu i addurno'r gweddill.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.