'Yn y sioe gynta': Rhai oedd ynghlwm â’r Nia Ben Aur wreiddiol yn rhan ohoni eleni eto
'Yn y sioe gynta': Rhai oedd ynghlwm â’r Nia Ben Aur wreiddiol yn rhan ohoni eleni eto
Wrth i Nia Ben Aur ddychwelyd i Bafiliwn yr Eisteddfod, mae gan ambell un sy’n cymryd rhan atgofion o fod yn rhan o’r perfformiad cyntaf 50 mlynedd yn ôl.
Bydd y sioe opera roc gyntaf erioed yn Gymraeg, a gafodd ei pherfformio yn Eisteddfod Genedlaethol Caerfyrddin ym 1974, yn dathlu ei phen-blwydd drwy ddychwelyd i’r Eisteddfod Genedlaethol yn Rhondda Cynon Taf nos Sadwrn.
Yn gyn athrawes o bentref Gwaelod-y-garth ym Mhentyrch, roedd Rhiannon Rees yn rhan o'r cynhyrchiad gwreiddiol hwnnw.
"Nath ffrind a fi, 'nathon ni benderfynu ymuno â'r côr yn mis Chwefror, gwreiddiol o Nia Ben Aur yn 'Steddfod Genedlaethol yn y bôn, achos bod ni 'di bod yn y sioe gynta' Caerfyrddin yn '74," meddai.
Hi hefyd oedd cyfarwyddwr cynhyrchiad Nia Ben Aur yn Ysgol Llanhari ym Mhont-y-clun, yn ogystal ag Ysgol Gyfun Cwm Rhondda yn Y Cymer – ac yno y mae ymarferion côr Nia Ben Aur bellach yn cael eu cynnal.
Roedd Ms Rees hefyd yn gyfarwyddwr y ddrama ysgol adeg roedd Angharad Lee, sef cyfarwyddwr sioe Nia Ben Aur yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, yn serennu yn rôl Nia yn yr 1990au cynnar.
A hithau bellach yn aelod o gôr sioe fawr y ‘Steddfod eleni, esboniodd Rhiannon Rees: “’Nes i gyfarwyddo Nia Ben Aur yn yr ysgol le ni’n ymarfer yma yng Nghwm Rhondda… yn rhywbeth fel 1993.
“A beth sydd yn eironig, o’n i ddim yn gwybod hyn ar y pryd, cyfarwyddwr y sioe yma yn yr Eisteddfod yw Angharad Lee. Ac Angharad oedd yn chwarae rhan Nia yn y cynhyrchiad yna yn ’93 pan oedd hi ‘byti 13 mlwydd oed.
“Mae’n hyfryd o deimlad, mae fel sa'r rhod wedi troi,” meddai wrth siarad â Newyddion S4C.
'Hel atgofion'
Roedd Jayne Rees o Bontypridd yn aelod o’r gynulleidfa pan gafodd Nia Ben Aur ei llwyfannu am y tro cyntaf yn Eisteddfod Bro Myrddin yng Nghaerfyrddin yn 1974.
Yn ferch coleg ar y pryd, fe brynodd Jayne boster i nodi’r achlysur.
A hithau bellach yn perfformio yn rhan o’r côr eleni, dywedodd fod pobl wedi mwynhau “hel atgofion” am y cynhyrchiad gwreiddiol.
“Unwaith o’n i’n gwbod bod ni’n mynd i ganu yn côr ‘Steddfod, ‘odd rhyw syniad ‘da fi bod y poster yn cuddio rhyw le yn rhyw gwpwrdd felly es i i chwilio amdano fe," meddai.
“’Dyw e ddim yn y cyflwr gorau ond mae fe’n hynod o ddiddorol i edrych arno fe. Ma’ fe’n enwi pwy ‘odd yn cymryd rhan yn Eisteddfod Bro Myrddin.
“Ond hefyd mae prisiau’r tocynnau’n falle’n ddiddorol i bobl achos 85c newydd ‘odd y tocyn!”.
Cysylltiadau
Mae gan gynhyrchiad Nia Ben Aur cysylltiadau cryf i’r ardal, ac mae’r Cyfarwyddwr eleni wedi dweud fod apelio at drigolion a phobl leol yn hollbwysig.
Roedd Cleif Harpwood, oedd yn ganolog i’r sioe wreiddiol yn ei brif rôl, Osian, yn gyn-ddisgybl Ysgol Gyfun Rhydfelen – a enwir bellach yn Ysgol Garth Olwg – ym Mhontypridd; cartref yr Eisteddfod eleni.
A hithau’n wreiddiol o Borth yn y Rhondda yn ogystal, dywedodd Angharad Lee: “Rhywbeth i’r gymuned yw hwn mwy na dim byd.
“Ni’n agor Eisteddfod RCT gyda hwn felly ‘odd o’n rili bwysig bod y gymuned yn ymwneud ‘da fe.”
Fel un o 300 o aelodau’r côr, dywedodd Rhiannon Rees fod ymrwymiad pobl leol i’r cynhyrchiad wedi bod yn “anhygoel” – yn enwedig oherwydd bod gymaint o “Gymry di-Gymraeg o’r Cwm” wedi penderfynu cymryd rhan.
“Mae e yn dangos ymrwymiad sbesial iawn o bobl yr ardal ‘ma yn cefnogi’r Eisteddfod ‘ma ac mae hynny yn ei hunain yn anrhydedd," meddai.
Mae Nia Ben Aur ar ei newydd wedd yn cynnwys trefniadau newydd o’r caneuon gan Patrick Rimes a Sam Humphreys. Osian Rowlands, Gavin Ashcroft ac Elin Llewelyn sydd yn arwain y côr.
Cywaith oedd y caneuon gwreiddiol gan Tecwyn Ifan, Alun ‘Sbardun’ Huws, Phil Edwards a Cleif Harpwood.
Bydd Nia Ben Aur yn dychwelyd i lwyfan y Pafiliwn ar faes yr Eisteddfod ym Mharc Ynysangharad, Pontypridd, am 20.00 nos Sadwrn a nos Lun.