Newyddion S4C

Mike Phillips wedi ei wahardd rhag gyrru am 25 mis ar ôl cyfaddef i yfed a gyrru

01/08/2024
Mike Phillips

Mae Mike Phillips wedi ei wahardd rhag gyrru am 25 mis ar ôl cyfaddef i yfed a gyrru.

Fe wnaeth cyn-fewnwr Cymru a'r Llewod gael ei arestio yn Llanwrtyd, Powys, ar 7 Gorffennaf.

Roedd ei brawf anadl am alcohol dair gwaith dros y terfyn cyfreithiol.

Roedd yn gyrru car Audi A4 ar y pryd.

Bydd y gwaharddiad yn cael ei dorri o 25 wythnos os bydd Mike Phillips yn gorffen cwrs ymwybyddiaeth o yfed a gyrru erbyn 8 Ionawr 2026.

Cafodd Phillips hefyd ddirwy o £1,153 a gorchmynnwyd iddo dalu £461 o ordal ac £85 o gostau.

Ef yw mewnwr mwyaf profiadol Cymru erioed gyda 94 o gapiau, gan ennill tair Pencampwriaeth Chwe Gwlad, dwy Gamp Lawn, ac ymddangos mewn dwy gystadleuaeth Cwpan y Byd.

Llun: Gruffydd Thomas/Huw Evans Agency

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.