Banc Lloegr yn torri cyfraddau llog am y tro cyntaf ers dechrau’r argyfwng costau byw
01/08/2024
Mae Banc Lloegr wedi torri cyfraddau llog am y tro cyntaf ers dechrau’r argyfwng costau byw.
Mae’r banc wedi torri cyfraddau llog o 5.25% i 5%, y gostyngiad cyntaf ers mis Mawrth 2020.
Pleidleisiodd pum aelod o'r pwyllgor o blaid torri cyfraddau, a phedwar o blaid eu cadw'r un fath.
Dywedodd llywodraethwr Banc Lloegr Andrew Bailey: “Mae chwyddiant wedi gostwng digon fel ein bod ni wedi gallu torri cyfraddau llog heddiw.”
Dywedodd y banc hefyd eu bod nhw’n disgwyl i economi’r DU dyfu 1.25% eleni, sy’n gyflymach na’u rhagolwg blaenorol.
Ond maen nhw wedi cadw eu rhagolwg ar gyfer 2025 yr un peth sef twf o 1%.