Pedoffeil o Gymru oedd wedi rhannu delweddau gyda Huw Edwards
Pedoffeil o Gymru oedd wedi rhannu y delweddau oedd ar gyfrif WhatsApp y cyflwynydd newyddion Huw Edwards, yn ôl Heddlu’r Met.
Dywedodd y llu bod Alex Williams, 25 oed, wedi pledio yn euog i feddu a dosbarthu lluniau anweddus o gategoriau A, B a C a meddu ar luniau anweddus o blant.
Roedd Williams wedi derbyn dedfryd o garchar wedi'i gohirio am 12 mis yn Llys y Goron Merthyr Tudful ar Fawrth 15.
Dywedodd yr heddlu fod yr ymchwiliad i Huw Edwards wedi dechrau ar ôl i ffôn a ddaeth i law swyddogion fel rhan o ymchwiliad arall ddatgelu’r sgwrs WhatsApp.
Fe wnaeth Huw Edwards bledio’n euog i greu delweddau anweddus o blant mewn Llys Ynadon yn Llundain dydd Mercher.
Mae Huw Edwards wedi ei ryddhau ar fechnïaeth, ac fe fydd yn cael ei ddedfrydu yn Llys Ynadon Westminster ar 16 Medi.
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/1818600677142081809
Fe wnaeth y darlledwr 62 oed adael y BBC ym mis Ebrill.
Dywedodd y BBC ddydd Mercher eu bod nhw wedi eu "dychryn" gan ymddygiad "ofnadwy" Huw Edwards ac y byddai wedi cael y sac os nad oedd eisoes wedi gadael.
Aflonydd
Clywodd y llys fod Huw Edwards wedi bod yn rhan o sgwrs ar-lein gyda dyn arall ar WhatsApp rhwng Rhagfyr 2020 ac Awst 2021.
Fe wnaeth y dyn, sydd bellach wedi ei adnabod gan Heddlu'r Met fel Alex Williams, anfon 377 o ddelweddau rhywiol ato, gyda 41 ohonynt yn ddelweddau anweddus o blant.
Anfonwyd y mwyafrif o'r rheini, 36, yn ystod cyfnod o ddeufis.
Ar 2 Chwefror 2021 dywedodd Mr Edwards wrth Alex Williams am beidio ag anfon unrhyw ddelweddau dan oed.
Anfonwyd y ddelwedd anweddus olaf ym mis Awst 2021, sef ffilm categori A yn cynnwys bachgen ifanc.
Dywedodd Alex Williams wrth Edwards fod y bachgen yn edrych yn ifanc, a bod ganddo fwy o ddelweddau a oedd yn anghyfreithlon.
Dywedodd Edwards wrtho am beidio ag anfon unrhyw ddelweddau anghyfreithlon, clywodd y llys.
Ni anfonwyd mwy o ddelweddau anghyfreithlon, a pharhaodd y pâr i gyfnewid delweddau pornograffig cyfreithlon tan fis Ebrill 2022.
Safodd Huw Edwards wrth i'r Prif Ynad, Paul Goldspring, amlinellu amodau ei fechnïaeth.
Roedd Edwards yn ymddangos yn nerfus ac aflonydd, cyn cadarnhau ei fod yn deall yr amodau.