Newyddion S4C

'Mor falch ohono': H o’r band Steps yn canu yn Gymraeg am y tro cyntaf

01/08/2024

'Mor falch ohono': H o’r band Steps yn canu yn Gymraeg am y tro cyntaf

Mae mam Ian ‘H’ Watkins o’r band Steps wedi dweud bod hi "mor falch" o'i mab wrth iddo ganu yn Gymraeg am y tro cyntaf.

Roedd dagrau yn llygiad Gaynor Watkins wrth i'r canwr o Gwm Rhondda berfformio ar raglen Canu Gyda Fy Arwr ar S4C.

Mae H wedi bod yn dysgu'r iaith a mae ei blant yn mynd i ysgol Gymraeg, ond dyma’r tro cyntaf iddo ganu yn gyhoeddus yn Gymraeg, a hynny o flaen cynulleidfa leol yn theatr y Parc a’r Dâr yn Nhreorci.

“Roedd hi’n emosiynol dros ben i fod nôl yma yn canu... roedd hi’n noson arbennig iawn," meddai.

Mae'r rhaglen yn dilyn llwybr bywyd H ar hyd Cwm Rhondda i rai o lwyfannau mwyaf y byd gan gwrdd â rhai o’r bobol sydd wedi dylanwadu arno fwyaf, gan gynnwys ei fam, Gaynor.

“Ein ‘hit’ cyntaf oedd 5, 6, 7, 8. Roedd e i fod i wneud dawnsio llinell yn cŵl. Benderfynon ni beidio dilyn y cyfeiriad hynny – ro’dd mam yn "gutted"... mae hi’n ddawnswraig llinell frwdfrydig.

Image
Gaynor Watkins
Roedd Gaynor Watkins yn emosiynol ar ôl i'w mab berfformio yn y Gymraeg.

“Ro’dd hi mor falch achos fydden i yn rhoi’r caneuon iddi hi cyn unrhyw un arall, a fydden i yn dangos y rwtîn dawns iddi. A byddai hi yn dysgu’r dosbarth a byddai pawb yn ei wybod cyn iddo fe fod ar Top of the Pops.”

Wrth weld ei mab y canu yn y Gymraeg, roedd Gaynor yn emosiynol iawn.

“Paid dechrau fi! Balch ofnadwy – achos mae e wedi dod adref i’r Parc a’r Dâr, dyma ei wreiddiau... i ddod adref ac yn enwedig i ganu yn Gymraeg, mae hyn wedi dod â deigryn i’r llygad.”

'Arbennig iawn'

Ym mhob rhaglen o Canu Gyda Fy Arwr, mae ‘ffan’ yn cael cyfle i ganu gyda’u harwyr. Y tro hwn, Carys Howells, o Lanelli yn wreiddiol, ond sydd bellach yn byw ym Mhencader yn Sir Gaerfyrddin, oedd yn cael cyfle i ganu gyda H.

Mae Carys wedi bod yn gefnogwr o Steps ers y dechrau yn 1997, ynghyd â’i mam, wnaeth farw ar ôl cael strôc yn 2019. Y tro diwethaf iddyn nhw fynd i ddigwyddiad gyda’i gilydd oedd i weld Steps yn chwarae ym Mharc y Scarlets, Llanelli.

Mae H am gyflwyno perfformiad y noson i fam Carys ac yn dweud wrthi bod angen iddyn nhw fod yno i’w gilydd – H yn cefnogi Carys gyda’i chanu a Carys yn cefnogi H gyda’i Gymraeg - wrth ganu fersiwn cwbl newydd o’r emyn boblogaidd, Cwm Rhondda gyda’i gilydd.

Mae'r emyn yn bwysig i H, meddai.

“Mae’n arbennig iawn gan ei fod yn un o hoff ganeuon fy nhad-cu.

"Ac yn fwy arbennig i fi, gan mod i’n ddysgwr ac fe wnaeth fy nhad-cu ddysgu Cymraeg yn hwyrach yn ei fywyd, felly byddai e wedi bod mor falch – proud as punch.”

Fe allwch wylio Canu Gyda Fy Arwr: Ian ‘H’ Watkins, nos Wener, 1 Awst am 21.00 ar  S4C, S4C Clic, a BBC iPlayer.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.