Theatr yn Abertawe lle berfformiodd Charlie Chaplin i ailagor ar ôl 15 mlynedd
Theatr yn Abertawe lle berfformiodd Charlie Chaplin i ailagor ar ôl 15 mlynedd
Ar ddechrau'r ugeinfed ganrif, Theatr y Palas oedd y lle i fod yng nghanol Abertawe. Yn denu tua 900 o ymwelwyr bob nos, roedd yn lle i ddianc a mwynhau.
Mae'r adeilad wedi ei ddefnyddio fel neuadd bingo a chlwb nos cyn cael ei adael yn wag am flynyddoedd. Agorwyd y theatr ym 1888 ac mae nifer o berfformwyr enwog wedi bod ar y llwyfan yma gan gynnwys Charlie Chaplin ac Anthony Hopkins.
Ar ôl bod ar gau am 15 mlynedd, mae bron yn amser i ailagor y drysau.
"Mae llawer o nodweddion gwreiddiol y theatr wedi'u hadfer gan gynnwys y bwa ar y llwyfan a'r brics coch gwreiddiol tu allan. Fan hyn fydd y co-working so bydd y fordydd co-working mas fan hyn.
"Mae cwpl o telephone boxes i adael i bobl wneud galwadau yn breifat."
Bydd cwmni technoleg yn cynnal a chadw'r adeilad a dyma fydd ei chweched safle yn Ne Cymru.
"Mae lot o bethau ni 'di trio cadw gymaint â ni'n gallu fel y llawr yn y caffi lawr llawr sy'n agored i'r public. Mae'r llawr wedi cael ei ailwneud ac yn cael ei ail wedi dodi lawr.
"Mae'r stepping ar y stage, so ti dal yn gallu gweld ble o'dd y stage. Obviously, hwnna o'dd y lle cyntaf i Anthony Hopkins ddemshin ar stage. Mae hwnna i wneud yn siŵr bod yr hanes dal yna."
Y nod yw denu busnesau a chwmniau sy'n ymwneud a thechnoleg i weithio yn yr adeilad.
"Ni eisiau ehangu ar be sy yng Nghaerdydd, Casnewydd a'r Barri... "..a dod a hwnna mewn i'r gymuned hefyd a chymysgu hefo'i gilydd yn dod a busnesau dim jyst yn Abertawe ond yng Nghymru gyfan i ehangu ar be sy gennym a'r talent sy gennym yng Nghymru."
Yn ôl Cyngor Abertawe mae ailagor yr adeilad yn rhan o adfywiad ehangach o ganol y ddinas.
"It's a beautiful building. The night we bought it, somebody tried to set it on fire. It could have been lost forever which would have been a real shame.
"Clearly, it wouldn't work in the modern age as a theatre but we did look at an innovative new use for it. This is about that broader regeneration of the high street.
"The Palace Theatre is a perfect place to base businesses."
Y gobaith yw bydd y drysau'n ailagor ym mis Medi gyda'r nod o ddenu cenhedlaeth newydd i fwynhau'r adeilad eiconig.