Newyddion S4C

Huw Edwards yn pledio’n euog i greu delweddau anweddus o blant

31/07/2024

Huw Edwards yn pledio’n euog i greu delweddau anweddus o blant

Mae Huw Edwards wedi pledio’n euog i greu delweddau anweddus o blant mewn Llys Ynadon yn Llundain.

Ymddangosodd cyn-gyflwynydd rhaglenni y BBC o flaen Llys Ynadon Westminster ddydd Mercher wedi'i gyhuddo o dri achos o greu delweddau anweddus o blant.

Roedd Huw Edwards wedi ei gyhuddo o gael chwe delwedd categori A, 12 delwedd categori B a 19 delwedd categori C ar WhatsApp ac fe blediodd yn euog i'r cyhuddiadau. 

Fe wnaeth y darlledwr 62 oed adael y BBC ym mis Ebrill.

Yn gwisgo siwt dywyll, tei glas a sbectol haul, siaradodd Mr Edwards, 62 oed, i gadarnhau ei enw, ei ddyddiad geni, ei gyfeiriad a'i ble ar ddechrau'r gwrandawiad ddydd Mercher.

Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth ac fe fydd yn cael ei ddedfrydu yn Llys Ynadon Westminster ar 16 Medi.

Aflonydd

Clywodd y llys fod Huw Edwards wedi bod yn rhan o sgwrs ar-lein gyda dyn ar WhatsApp rhwng Rhagfyr 2020 ac Awst 2021.

Fe wnaeth y dyn anfon 377 o ddelweddau rhywiol ato, gyda 41 ohonynt yn ddelweddau anweddus o blant.

Anfonwyd y mwyafrif o'r rheini, 36, yn ystod cyfnod o ddeufis.

Ar 2 Chwefror 2021 dywedodd Mr Edwards wrth y dyn am beidio ag anfon unrhyw ddelweddau dan oed.

Anfonwyd y ddelwedd anweddus olaf ym mis Awst 2021, sef ffilm categori A yn cynnwys bachgen ifanc.

Dywedodd y dyn wrth Edwards fod y bachgen yn edrych yn ifanc, a bod ganddo fwy o ddelweddau a oedd yn anghyfreithlon.

Dywedodd Edwards wrtho am beidio ag anfon unrhyw ddelweddau anghyfreithlon, clywodd y llys.

Ni anfonwyd mwy o ddelweddau anghyfreithlon, a pharhaodd y pâr i gyfnewid delweddau pornograffig cyfreithiol tan fis Ebrill 2022.

Safodd Huw Edwards wrth i'r Prif Ynad, Paul Goldspring, amlinellu amodau ei fechnïaeth.

Roedd Edwards yn ymddangos yn nerfus ac aflonydd, cyn cadarnhau ei fod yn deall yr amodau.

Yna gadawodd ystafell y llys. Parhaodd y gwrandawiad am 26 munud i gyd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.