Newyddion S4C

Cau pwll nofio Harlech yn sgil diffyg arian

31/07/2024
Pwll nofio Harlech

Bydd pwll nofio yng Ngwynedd yn cau o fewn wythnosau yn sgil diffyg arian.

Mae'r grŵp sy'n rhedeg pwll nofio Harlech wedi cyhoeddi y bydd yn cau cyn diwedd Awst.

Cafodd y pwll nofio ei agor yn y 1970au ond yn ddiweddar mae dyfodol y safle wedi bod yn destun pryder.

Ym mis Ionawr, cafodd Hamdden Harlech & Ardudwy rybudd eu bod yn wynebu toriad cyllid.

Ers blynyddoedd, mae'r pwll wedi bod yn cael ei ariannu gan gynghorau cymuned leol a Chyngor Gwynedd.

Ond mae cynghorau cymuned Talsarnau, Llanbedr a Dyffryn Ardudwy a Thal-y-bont wedi dweud nad oes modd iddyn nhw barhau i ariannu'r pwll nofio.

Mae'r penderfyniad wedi gadael Hamdden Harlech & Ardudwy gyda bwlch ariannol o £30,000 y flwyddyn, medden nhw.

'Calon drom'

Mewn datganiad, dywedodd corff Hamdden Harlech ac Ardudwy, sy'n rhedeg y pwll: "Gyda chalon drom, rydym yn cyhoeddi y bydd pwll nofio Harlech ac Ardudwy yn cau dros yr wythnosau nesaf.

"Dros y misoedd diwethaf, mae llawer o waith wedi digwydd yn y ganolfan, gyda nifer o adroddiadau yn edrych ar y cyfleoedd i'r pwll nofio yn y dyfodol o ran arbed ynni. 

"Cafodd cynllun busnes proffesiynol ei greu, sy'n nodi bod busnes hyfyw yma o fewn y ganolfan hamdden.

"Yn anffodus, mae'r arian wedi dod i ben cyn i ni gael y cyfle i wneud unrhyw newidiadau neu gynllunio ar gyfer y dyfodol."

Ychwanegodd y corff eu bod wedi cysylltu â Chyngor Gwynedd i ofyn am ragor o gefnogaeth ariannol.

Ond nid oedd y cyngor yn gallu helpu oherwydd "cyfyngiadau ariannol eu hunain", meddai.

Bydd cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal ddydd Sul, 11 Awst i drafod dyfodol y safle.

Llun: Hamdden Harlech & Ardudwy 

 
 
 
 
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.