Lori wair yn mynd ar dân ger Pont Abraham

30/07/2024
Lori wair ar dan

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw wedi i lori oedd yn cario 44 tunnell o wair fynd ar dân rhwng Pont Abraham a Cross Hands yn Sir Gâr.

Cafodd gwasanaethau tan ac achub o Dreforys, Port Talbot, Caerfyrddin, Y Tymbl a Llanelli eu galw i ddiffodd y tân ar ffordd orllewinol yr A48 am 16.14 ddydd Llun.

Roedd y tân yn llosgi’n ffyrnig erbyn iddyn nhw gyrraedd a chafodd y gwair a threlar y lori eu dinistrio’n llwyr.

Bu'n rhaid cau'r ffordd am rai oriau gan achosi oedi mawr i deithwyr.

Image
Diffodd y tân

Image
Diffodd y tân

Cafodd diffoddwyr tan o Bontarddulais eu galw yn ôl am 2.16 ddydd Mercher ar ôl i’r rheini oedd wedi mynd i symud y cerbyd ddarganfod fod y gwair wedi ailgynnau. Fe wnaethon nhw adael y safle am 5.30.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.