Cyfnod ‘anodd’ yn wynebu Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddiad y Canghellor
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod nhw'n wynebu “blwyddyn anodd” wedi cyhoeddiad y Canghellor newydd y byddai angen i’r Trysorlys wneud toriadau sylweddol.
Dywedodd Rachel Reeves dydd Llun bod Llywodraeth Lafur y DU wedi etifeddu gorwariant o £22 biliwn oddi wrth y Ceidwadwyr.
Mae hi wedi canslo sawl prosiect ar gyfer ffyrdd a rheilffyrdd ac wedi dweud na fydd pensiynwyr yn derbyn y Taliad Tanwydd Gaeaf o hyn ymlaen oni bai eu bod yn hawlio budd-daliadau.
Wrth feio'r llywodraeth Geidwadol flaenorol am y problemau, dywedodd Llywodraeth Lafur Cymru y byddai'r wasgfa ariannol yn parhau am gyfnod eto.
Dywedodd Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, ei bod eisoes wedi “bod yn glir y bydd 2024-25 yn flwyddyn anodd gan nad yw ein setliad cyllido yn ddigonol i ymateb i'r holl bwysau y mae'n gwasanaethau cyhoeddus yn eu hwynebu”.
“Mae Datganiad y Canghellor wedi dangos difrifoldeb yr heriau y mae Llywodraeth Cymru yn eu hwynebu wrth inni fynd ati i baratoi ar gyfer ein cyllideb nesaf,” meddai.
Ychwanegodd: “Rydym yn cydnabod na ellir gwrthdroi'r sefyllfa y mae Llywodraeth newydd y DU wedi'i hetifeddu ar unwaith ac fe fydd yn cymryd amser i'r cyllid cyhoeddus wella.
“Mae diffygion cyllido sylweddol a phwysau ar wasanaethau cyhoeddus allweddol a bydd angen gwneud dewisiadau a phenderfyniadau anodd.
“Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i flaenoriaethu'r gwasanaethau cyhoeddus sydd bwysicaf i bobl yng Nghymru."
Wrth gyhoeddi ei blaenoriaethau ariannol ddydd Llun, dywedodd y Canghellor Rachel Reeves mai pensiynwyr ar gredydau pensiwn neu fudd-daliadau eraill yn unig, fydd yn gymwys i dderbyn y Taliad Tanwydd Gaeaf.
Cafodd y taliad sydd rhwng £100 a £300 ei roi i 11.3 miliwn o bensiynwyr yn y DU yn ystod gaeaf 2022-23, i'w cynorthwyo gyda biliau tanwydd.
Ychwanegodd bod gorwariant o £6.4bn eleni ym maes lloches i fewnfudwyr, sy'n cynnwys y cynllun i anfon mudwyr i Rwanda. Mae'r Llywodraeth Lafur wedi cael gwared â'r cynllun hwnnw bellach.
Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi cyhoeddi y bydd rhai gweithwyr yn y sector gyhoeddus yn derbyn codiad cyflog.
Bydd yr heddlu yng Nghymru a Lloegr yn derbyn codiad cyflog o 4.75% gyda gweithwyr yn y gwasanaeth carchardai yn derbyn 5% o gynnydd.
Dywedodd Canghellor yr wrthblaid, Jeremy Hunt bod Rachel Reeves heb unrhyw "gywilydd" yn blaenaru'r tir ar gyfer codi trethi yn y gyllideb fis Hydref.