Trywanu Southport: Trydydd plentyn wedi marw
Mae enw un o'r merched ifanc a gafodd eu lladd mewn ymosodiad yn Southport ddydd Llun wedi ei gyhoeddi.
Bu farw Alice Aguiar yn ystod oriau mân fore Mawrth.
Dywedodd yr heddlu bod y ddwy a fu farw ddydd Llun yn chwech a saith oed.
Yn ôl yr Ysgrifennydd Gwladol dros Gymunedau ym Mhortiwgal, Jose Cesario, roedd gan Alice rieni o Bortiwgal a dywedodd eu bod yn dod o ynys Madeira, ac yn byw yn Southport ar hyn o bryd.
Ychwanegodd bod eu rhieni wedi eu brawychu.
Mae'r heddlu yn parhau i holi bachgen 17 oed sy'n byw ym mhentref Banks, Sir Gaerhirfryn, ac wedi ei eni yng Nghaerdydd, wedi’r ymosodiad trywanu “ffyrnig” yn hwyr fore Llun.
Mae e wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio a cheisio llofruddio. Symudodd i'r ardal o Gaerdydd yn 2013.
Does dim modd cyhoeddi ei enw am resymau cyfreithiol.
Mae tair o ferched bellach wedi marw ac mae dau oedolyn hefyd mewn cyflwr difrifol, a phump o blant yn parhau mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty.
Y gred yw bod yr ymosodiad wedi digwydd yn ystod sesiwn ddawnsio a yoga i blant.
Ar gyfryngau cymdeithasol, mae pobl wedi canmol dewrder yr athrawes yoga Leanne Lucas wedi iddi gael ei hanafu yn yr ymosodiad.
Ms Lucas oedd trefnydd y sesiwn, yn ôl neges ar Facebook.
Dywedodd un llygad dyst, Colin Parry, sy'n berchen ar siop drws nesaf i safle'r ymosodiad, bod yr ymosodwr wedi cyrraedd mewn tacsi ac yna wedi gwrthod talu.
'Mewn sioc'
Yn ôl yr heddlu, dyw hi ddim yn ymddangos mai terfysgaeth oedd wrth wraidd yr ymosodiad.
Wrth ymateb i'r datblygiadau, dywedodd y Prif Weinidog Syr Keir Starmer nos Lun bod yr hyn ddigwyddodd yn ofnadwy: "Mae pawb mewn sioc ar ôl yr hyn y maen nhw wedi ei weld a'i glywed.
“Rwy'n gwybod fy mod yn siarad ar ran pawb, wrth ddweud bod ein meddyliau a'n cydymdeimlad gyda'r dioddefwyr, eu teuluoedd, eu ffrindiau a gyda'r gymuned yn ehangach. "
“Mae'n amhosibl amgyffred yr hyn maen nhw'n teimlo ar hyn o bryd.”
Llun: Unigolyn yn gadael blodau yn Southport/ PA