
Miloedd o bobl heb dderbyn diagnosis o ganser

Mae miloedd o bobl wedi methu cael diagnosis o ganser ers dechrau’r pandemig, yn ôl elusen ganser flaenllaw.
Mae amcangyfrifon yn dangos bod 4,200 o bobl yng Nghymru heb gael diagnosis na thriniaeth gan feddygon.
Mae’r ffigyrau gan elusen Macmillan hefyd yn dangos bod 1,430 o driniaethau cyntaf wedi’u colli yng Nghymru rhwng Mawrth 2020 a Mawrth 2021, o gymharu â gwaith ymchwil yr elusen yn 2019.
Un rheswm am hyn yw bod cleifion heb fynd i weld meddyg wrth ddechrau amau bod ganddynt symptomau.

Fe ohiriodd Lisa Harvey o Gaerdydd ei apwyntiad y llynedd, ar ôl sylwi ar newid yn ei bron.
"Fe wnes i osgoi galw'r meddyg teulu am gwpwl o wythnosau," meddai wrth ITV Cymru.
"Doeddwn i ddim eisiau rhoi baich ar y GIG - roedden ni'n mynd trwy bandemig. Doeddwn i ddim eisiau gwastraffu eu hamser os nad oedd dim byd o’i le, ond ar yr un pryd roeddwn i'n ymwybodol y gallai fod yn rhywbeth".
Yn anffodus, roedd rhywbeth o’i le. Ym mis Ebrill eleni, cafodd lawdriniaeth masectomi dwbl i dynnu meinwe ei bron ac i geisio atal y canser rhag dychwelyd.
“Er nad oeddwn i eisiau gwastraffu eu hamser, fe wnes i feddwl, pe bai hyn yn digwydd i ffrind neu fy chwaer - byddwn i wedi eu hannog nhw i fynd i gael golwg arno, yn bendant".

Mae gweithwyr iechyd proffesiynol hefyd yn credu bod y pryder o ddal Covid-19 wedi atal rhai pobl rhag ymweld â’r feddygfa neu’r ysbyty.
Mae meddygon nawr yn rhagweld y bydd hi’n anoddach i drin cleifion â chanser, gan ei fod wedi cael mwy o amser i ddatblygu.
Yn ôl Dr Calum Forrester-Paton, sy’n feddyg teulu ym Mhenarth, mae “problemau difrifol” ar y gorwel.
"Ar ddechrau’r pandemig, roedd y neges o amddiffyn y GIG yn gryf iawn a phobl yn ofn mynd i’r ysbyty heblaw bod gwir angen. Ond nawr, mae’n rhaid i ni drin symptomau difrifol yn syth, neu fel arall bydd problemau difrifol yn ein hwynebu".
Dywedodd y gallai meddygon teulu geisio gweld mwy o gleifion wyneb yn wyneb, ac mae’n annog unrhyw un sydd â symptomau canser i wneud apwyntiad.
“Rwy'n credu ein bod ni'n ymwybodol bod angen i ni ei wneud ychydig yn fwy. Yn ein meddygfa ni, ry’n ni’n gwneud ein gorau i weld cleifion os yw hynny’n briodol".

Mae gwasanaethau canser ledled Cymru bellach yn gweithio trwy'r don newydd o gleifion sy'n aros am apwyntiadau diagnosis a sgrinio.
Mae'r Rhaglen Sgrinio Genedlaethol yng Nghymru yn ymdrin â phrofion i ganfod canser y coluddyn, ceg y groth a chanser y fron yn gynnar. Ond pan darodd y pandemig, cafodd y gwasanaethau eu hoedi am o leiaf dri mis - a rhai yn hirach.
Dywedodd Sharon Hillier, sy’n gyfarwyddwr sgrinio i Iechyd Cyhoeddus Cymru, nad oedd “penderfyniad gwahanol i’w wneud bryd hynny” oherwydd bod pobl wedi rhoi’r gorau i fynychu eu hapwyntiadau ar ddechrau’r pandemig.
Nawr, mae staff yn y labordy sgrinio ym Mhontyclun yn prosesu mwy na mil o samplau bob dydd. Dywedodd Dr Hillier eu bod yn gobeithio y bydd pawb a ddylai wedi cael diagnosis wedi’u clirio erbyn diwedd y flwyddyn.
Mewn clinig y fron yn y Rhondda, mae clinigau ychwanegol yn cael eu cynnal i weld cymaint o gleifion â phosib.
“Mae cynnydd amlwg yn y galw,” meddai’r radiolegydd ymgynghorol Dr Sally Bolt.
"Oherwydd rheolau ymbellhau cymdeithasol, doedd dim modd gweld gymaint o gleifion oherwydd nad oeddem yn gallu cael ystafelloedd aros llawn. Ry’n ni wedi gorfod gwneud sesiynau ychwanegol er mwyn gallu gweld mwy o bobl".

Cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, yn ddiweddar y byddai’n buddsoddi £25 miliwn rhwng ysbytai Cymru ar gyfer offer newydd fel peiriannau sganio, er mwyn ysgafnhau’r gwaith o roi diagnosis i bawb.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn “gweithio gyda GIG Cymru i sicrhau bod cymaint o ofal canser â phosib yn parhau".
“Rydym wedi cyhoeddi cynllun gyda buddsoddiad cychwynnol o £100m. Mae hyn yn dangos ein bod yn uchelgeisiol ond yn realistig wrth adeiladu system iechyd a gofal sy’n ffocysu ar wasanaethau canser.
“Byddwn yn gweithio’n agos gyda’r GIG yn ystod y misoedd nesaf i fwrw ymlaen â’r camau penodol sy’n ymwneud â gwasanaethau canser. Rydym yn parhau i annog unrhyw un â symptomau i gysylltu â'u meddyg teulu ac i bobl fynd i'w hapwyntiadau diagnostig a thriniaeth".