Newyddion S4C

Medi Harris yn ‘rili prowd’ ar ôl dod yn 6ed yn ei ras 100m dull cefn

29/07/2024

Medi Harris yn ‘rili prowd’ ar ôl dod yn 6ed yn ei ras 100m dull cefn

Mae’r aelod o dîm nofio Prydain, Medi Harris wedi dweud ei bod hi’n “rili prowd” ar ôl dod yn 6ed yn ei ras 100m dull cefn.

Doedd y canlyniad ddim yn ddigon i gyrraedd y rownd gynderfynol ond roedd y profiad yn un “anhygoel” i’r ferch o Borthmadog.

“Es i cael moment cyn i fi ddod yma, o’n i jesd ‘tha ‘Woah, dwi actually yma,’” meddai wrth raglen Newyddion S4C.

“A i bod yn yr un heat a’r genod o Ffrainc o’dd o jyst anhygoel i weld faint sydd yma i wotshad.

“Yndw, dwi methu complainio. Dwi’n gwybod dwi di neud bob dim o’n i’n gallu wneud.

“Enwedig y blwyddyn yma, so dwi jesd rili prowd bod fi yma.

“A dwi isho ddweud diolch wrth teulu a ffrindiau fi, a i Porthmadog!”

Fe fydd Medi Harris hefyd yn cystadlu fel rhan o dîm ras gyfnewid 4 x 200m dull rhydd ddydd Iau.

Mae Medi wedi ennill medalau ym Mhencampwriaethau’r Byd, medal aur ym Mhencampwriaeth Ewrop a medal efydd dros Gymru yng Ngemau’r Gymanwlad y llynedd.

Mae’r nofwraig wedi siarad yn ddiweddar am golli ei mam i ganser yn gynharach eleni, a sut mae’r profiad wedi ei gwneud yn fwy penderfynol o gyrraedd y gemau. 

Mae modrwyau amryliw y Gemau Olympaidd i’w gweld ar draws Porthmadog, wrth i fusnesau ddangos eu cefnogaeth i Medi.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.