
Medi Harris yn 'falch o gystadlu er cof am ei Mam' yn y Gemau Olympaidd

Medi Harris yn 'falch o gystadlu er cof am ei Mam' yn y Gemau Olympaidd
Ar ôl cyfnod anodd iawn yn dilyn colli ei mam i ganser, mae’r nofwraig o Borthmadog, Medi Harris, ar ei ffordd i'r Gemau Olympaidd.
"Dwi gorfod cal coffi yn gynta, ymarfer dau awr yn y bore, campfa, bwyta, nol i'r pwll yn y nos am dau awr arall, bwyta, cysgu."
Dyna ddiwrnod arferol nofwraig broffesiynol ac yn 21 oed, mae Medi Harris o Borthmadog ar fin gwireddu breuddwyd.
Am y tro cyntaf erioed mae hi’n rhan o dîm nofio Prydain fydd yn cystadlu yn y Gemau Olympaidd.
"Sa chdi 'di deud hyn i fi tua dau neu tri blwyddyn yn ôl, 'swn i methu coelio fo," meddai.
"Mae'n cweit surreal, obviously dwi'n rili hapus a dwi jyst yn rili falch dwi'n gallu cynrychioli Cymru a Tîm GB."
Mae’n amlwg ei bod hi’n hoff o gystadlu ar y llwyfannau mawr – ar ôl cipio'r Arian yn y ras gyfnewid 200m ym Mhencampwriaethau’r Byd.
Uchafbwynt ei gyrfa oedd ennill yr Efydd yng Ngemau’r Gymanwlad yn Birmingham yn y 100m dull cefn. Bydd yna gyfle iddi hi hefyd ennill medalau Olympaidd yn y ddwy ras yma ym Mharis.

'Prowd iawn ohoni'
Ond daw hyn oll yn ystod cyfnod anodd iawn iddi hi, ar ol colli ei Mam i ganser yn ddiweddar.
"'Swn i erioed 'di maddau i fy hun os 'swn i heb 'di wneud y tîm a jyst i gallu gwneud o i hi, a teulu fi, a fi. 'Nath hi o hyd ddeud wrtha fi o'dd hi'n gwybod 'swn i'n gallu wneud o so dwi jyst yn rili falch bod fi'n gallu gwneud o i hi."
Does dim amheuaeth bydd na gefnogaeth gref o Borthmadog yn y dorf yn ei sbarduno hi ymlaen.
Dywedodd tad Medi, Gwilym Pritchard: "Ma'r teulu i gyd yn prowd iawn ohoni hi, bob dim ma'i 'di neud a bod hi'n mynd i'r Olympics. Tan fydda ni yna ma'n siwr fyddan ni'n sylweddoli faint o dda 'di hi a be ma'i di neud."
O Borthmadog i Baris – mae’r awr fawr bron â chyrraedd i’r nofwraig arbennig, a gobaith gwirioneddol o ddychwelyd i’r gogledd gan ychwanegu medal Olympaidd i'r casgliad sylweddol sydd ganddi'n barod.