Newyddion S4C

Penaethiaid cwmnïau dŵr i 'wynebu cyhuddiadau troseddol' mewn achosion cyson o lygru

Afon Ogwr

Fe allai penaethiaid cwmnïau dŵr wynebu cyhuddiadau troseddol a cholli taliadau bonws am waredu carthion yn anghyfreithlon o dan reolau llymach, meddai Ysgrifennydd yr Amgylchedd Llywodraeth y DU, Steve Reed.

Bydd cyfreithiau newydd y mae’n eu cyflwyno i’r Senedd yn “rhoi mwy o rym i reoleiddwyr”, meddai Mr Reed mewn erthygl yn The Mail on Sunday.

“Bydd penaethiaid dŵr sy’n gyfrifol am ddympio carthion yn anghyfreithlon dro ar ôl tro yn wynebu cyhuddiadau troseddol, a byddaf yn gwahardd talu eu bonysau gwerth miliynau o bunnoedd nes iddyn nhw lanhau eu budreddi gwenwynig,” meddai gweinidog y Cabinet.

Dywedodd ei bod yn “fwy proffidiol ar hyn o bryd i adael i’r llygredd lifo yn hytrach na thrwsio’r pibellau sydd wedi torri” a bod rheoleiddio yn rhy wan i’w atal.

“Ni ddylai hyn erioed fod wedi cael caniatâd i ddigwydd, a, gyda’n llywodraeth Lafur newydd, ni fydd byth yn digwydd eto.”

Wrth gael ei holi gan Victoria Derbyshire ar raglen Sunday with Laura Kuenssberg y BBC, na allai Mr Reed ddweud pa lefel o waredu llygredd fyddai ei angen cyn y byddai cyhuddiadau troseddol yn cael eu gweithredu.

Dywedodd: “Yr hyn rydw i eisiau ei wneud yw glanhau ein dŵr. Byddwn yn gwneud hyn drwy wneud i’r penaethiaid dŵr wynebu cyhuddiadau troseddol os ydynt yn gyfrifol am lefelau difrifol, parhaus o ddympio carthion yn anghyfreithlon.

“Byddwn yn gwahardd talu eu taliadau bonws gwerth miliynau o bunnoedd tra eu bod yn goruchwylio’r math hwnnw o fethiant.

“Byddwn yn clustnodi arian cwsmeriaid sydd wedi’i glustnodi i’w wario ar fuddsoddi yn y system garthffosiaeth. 

"Felly, os na chaiff ei wario ar hynny, bydd yn cael ei ad-dalu i gwsmeriaid mewn gostyngiad ar eu biliau.”

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.