Newyddion S4C

Dymchwel sgaffaldiau o adeilad yn Abertawe wedi pum mlynedd o aros

27/07/2024
sgaffald

Mae sgaffaldiau sydd wedi goroesi yn hirach na chyfnod pedwar Prif Weinidog a phandemig byd-eang wedi'i dynnu i lawr o res o siopau a chaffis yng nghanol y ddinas yn Abertawe.

Mae wedi cymryd mwy na phum mlynedd a hanner i’r sgaffaldiau ddod i lawr o wyneb adeilad rhwng Ffordd y Dywysoges a Heol y Castell oherwydd oedi a chymhlethdodau wrth ymchwilio i ddiffyg posibl yn yr adeilad.

Roedd hyn yn golygu bod busnesau islaw yn cael eu cuddio’n rhannol gan sgerbwd metel a rhwyd uwchben i atal y posibilrwydd o deils rhag disgyn ar y stryd. 

Cafodd y sgaffaldiau eu codi am y tro cyntaf tua mis Tachwedd 2018 ni allai neb fod wedi dychmygu y byddai yno o hyd yn 2024. 

Yn yr amser hwnnw mae busnesau wedi mynd a dod bod eraill wedi aros.

Nawr mae'r adeilad i'w weld unwaith eto ​​ac mae nifer yr ymwelwyr eisoes wedi gwella yn ôl aelod o staff siop gyfagos. 

“Mae’n llawer prysurach. Roedd rhai pobl yn dweud nad oedden nhw’n gwybod ein bod ni yma, er ein bod ni wedi bod ers wyth neu naw mlynedd.”

Dywedodd Perry Oktay, swyddog gwerthiant yn siop dillad dynion Slater ei fod wedi clywed y bydd ychydig o olchi yn digwydd i'r adeilad yn fuan iawn. 

“Gobeithio wedyn y bydd yn edrych yn newydd sbon,” meddai. 

Bydd absenoldeb sgaffaldiau hefyd yn golygu y gall y siop fynd i'r afael â mater draenio llawr gwaelod na ellid ei wneud tra'r oedd i fyny.

Mae'r cwmni a drefnodd y gwaith ar yr adeilad, Quantum Swansea LLP, wedi dweud yn flaenorol ei fod yn cydnabod ei fod yn gyfnod anodd i denantiaid yr adeilad, tra bod Cyngor Abertawe, er nad yn berchen ar yr adeilad, wedi dweud ei fod wedi bod yn cysylltu â Quantum Swansea LLP i geisio cael terfyn ar y sefyllfa.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.