Newyddion S4C

Cyhuddo dyn o ymosod yn rhywiol mewn canolfan siopa yng Nghaerdydd

27/07/2024
Canolfan Dewi Sant

Mae dyn wedi’i gyhuddo yn dilyn ymosodiad rhyw honedig a ddigwyddodd yng Nghanolfan Siopa Dewi Sant, Caerdydd, brynhawn dydd Gwener.

Mae Phillip Daniel, 32 oed o’r Barri, wedi’i gyhuddo o ddau gyhuddiad o ymosod yn rhywiol.

Mae wedi ei gadw yn y ddalfa a bydd yn ymddangos mewn gwrandawiad yn Llys Ynadon Caerdydd ddydd Llun.

Llun: Wikimedia/Seth Whales

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.