Newyddion S4C

Seremoni agoriadol y Gemau Olympaidd: Beth allwn ni ei ddisgwyl?

26/07/2024

Seremoni agoriadol y Gemau Olympaidd: Beth allwn ni ei ddisgwyl?

Ar ôl blynyddoedd o drefnu, bydd seremoni agoriadol Y Gemau Olympaidd yn cael ei chynnal ym Mharis ddydd Gwener.

Am y tro cyntaf erioed, ni fydd y seremoni yn cael ei chynnal mewn stadiwm ond yn hytrach ar hyd yr Afon Seine.

Bydd yr orymdaith 6km yn dechrau wrth Bont Austerlitz ac yn gorffen ger y Tŵr Eiffel yn Trocadero.

Bydd 100 o gychod yn cario mwy na 10,000 o athletwyr - gan gynnwys 31 o Gymru - yn hwylio heibio'r Notre Dame a'r Louvre.

Mae disgwyl i hyd at 600,000 o bobl heidio i brifddinas Ffrainc i weld y digwyddiad, gyda 1.5 biliwn o bobl yn ei wylio ar y teledu.

Y gred yw mai hon fydd y seremoni agoriadol fwyaf yn hanes Y Gemau Olympaidd. 

Ond y tu hwnt i'r cyffro, mae cadw pawb yn ddiogel yn anghenraid ac fe fydd 45,000 o blismyn ar ddyletswydd nos Wener.

Image
Elin roberts
Dywedodd Elin Roberts, sy'n byw ym Mharis, bod y Gemau Olympaidd yn codi cwestiynau o ran diogelwch

“’Da ni’n gweld bod y lefel terfysgaeth yn Ffrainc ar y lefel uchaf a hynny ers ‘chydig fisoedd erbyn rŵan,” meddai Elin Roberts, sy’n byw ym Mharis.

“Ond ar ben hynny, mae’r Gemau Olympaidd yma, mae o’n codi llawer iawn o gwestiynau o ran diogelwch hefyd.”

Mae Illtud Dafydd, sy'n newyddiadurwr ym Mharis, yn cytuno.

“Dyw Ffrainc ddim yn gallu bod yn annibynnol ag yn delio gyda fe jyst ar ben ei hun,” meddai.

“Ma’ nhw wedi gofyn i luoedd o sawl gwlad ar draws y byd i ddod mewn.

“Wnes i weld rhyw lori gyda number plate Almaeneg gyda heddweision ynddo fe bore ‘ma.”

Pryd mae'r seremoni agoriadol yn dechrau?

Bydd y seremoni'n dechrau am 19:30 amser lleol (18:30 BST) ddydd Gwener.

Mae disgwyl iddo bara pedair awr, gyda’r rhan olaf yn digwydd wrth i’r haul fachlud ar draws y brifddinas.

Ym mha drefn y bydd y cenhedloedd yn cael eu cyflwyno?

Yn unol â thraddodiad, Gwlad Groeg fydd y genedl gyntaf i'w chyflwyno yn ystod y seremoni.

Yn dilyn Gwlad Groeg fydd Tîm Olympaidd y Ffoaduriaid, gyda Frainc yn cael ei chyflwyno olaf.

Ni fydd yr athletwyr o Rwsia a Belarus sy’n cystadlu fel unigolion oherwydd rôl eu gwledydd yn y rhyfel yn Wcráin yn cymryd rhan.

'Ysbrydoliaeth'

Dywedodd Vaughan Gething, Prif Weinidog Cymru cyn yr agoriad swyddogol: “Pob lwc i’n holl athletwyr sy’n cystadlu yng Ngemau Olympaidd Paris.

“Rydyn ni am roi sylw arbennig i’r athletwyr o Gymru – y nifer fwyaf ers dros 100 mlynedd!

 “Mae pob un ohonoch wedi gweithio'n galed dros ben i fod yna, gan gyrraedd y brig yn eich camp. Chi’n ysbrydoli ein pobl ifanc.

 “Llongyfarchiadau. Chi yw Sêr Olympaidd Cymru, eleni ac am byth.”

Llun: Wochit

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.