Newyddion S4C

Brwydrau dyddiol rhieni plant ag anghenion dysgu ychwanegol yn eu 'blino’n lân’

ITV Cymru 25/07/2024
Betsan Gower Gallagher

Wedi "blino'n lân", teimlo’n "unig ac yn ddigalon": dyna sut mae rhieni plant ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yn disgrifio'r frwydr ddyddiol maen nhw’n ei hwynebu i geisio sicrhau y gall eu teuluoedd ffynnu.

Mae teuluoedd wedi dweud wrth ITV Cymru Wales fod bylchau sylweddol yn y ddarpariaeth addysg a gofal plant, tra bod adroddiad damnïol ar y sector yng Nghymru wedi datgelu diffygion mawr.

Mae arolwg barn newydd o rieni plant ag ADY wedi darganfod bod hanner yr ymatebwyr yng Nghymru wedi dweud bod yn rhaid i'w plentyn gymryd amser i ffwrdd o'r ysgol oherwydd nad oedd modd diwallu eu hanghenion. 

O'r rheiny, dywedodd 17% fod eu plentyn wedi bod i ffwrdd o'r ysgol am rhwng mis a blwyddyn. 

Daw’r ffigyrau hyn yn sgìl cyhoeddi adroddiad beirniadol gan y Senedd wnaeth ddarganfod: 

• bod hawl nifer sylweddol o blant a phobl ifanc i addysg yn cael ei wrthod ledled Cymru, ac nid yw gofal plant cynhwysol yn hygyrch i bawb,

• bod teuluoedd yn aml "ar eu gliniau" yn gorfod ymladd am hawliau sylfaenol y mae eraill yn eu cymryd yn ganiataol.

• bod y rhai sy'n ceisio cael mynediad at ddarpariaeth Gymraeg a'r rhai sy'n byw mewn ardaloedd gwledig yn wynebu heriau ychwanegol.

I rai teuluoedd, mae’r brwydrau hyn yn golygu na all rhieni a gofalwyr weithio.

Image
Betsan Gower Gallagher
Mae Betsan yn dweud bod cael gofal ar gyfer ei efeilliaid awtistig yn "broblem fawr"

Mae efeilliaid saith mlwydd oed, Betsan Gower Gallagher, Brielle a Bowann, yn awtistig. 

“Maen nhw fel tân gwyllt,” meddai. “Mae nhw llawn llawenydd a chyffro, a hyfrydwch pur.

“Ond hefyd mae yna glec fawr. Maen nhw’n anhygoel, ond mae ganddyn nhw anghenion cymleth ac anghenion sydd angen cael eu diwallu.”

Mae Betsan yn falch bod ei phlant mewn ysgol sy’n "berffaith" iddyn nhw, ond mae'n dweud bod gofal plant yn broblem fawr, gyda disgwyl y bydd gofal plant cynhwysol un-wrth-un i'w hefeilliaid yn costio tua £1,000 yr wythnos.

Image
Gefeilliad
Betsan gyda'i gefeilliaid, Brielle a Bowann 

"Dydw i ddim yn gallu anfon fy mhlant i unrhyw feithrinfa," meddai. 

"Nid oes unrhyw leoliadau gofal plant fyddai’n eu derbyn nhw. Mae angen rhywbeth oherwydd, yn yr ysgol mae fy mhlant yn mynd iddi, mae yna 120 o blant yno fyddai angen gofal plant.

“Mae pobl mor anymwybodol o’r brwydrau - mae’n flinedig ac yn waith caled, mae’r gwaith papur yn chwerthinllyd, mae’r ffôn yn galw’n ôl ac ymlaen, mae’n ddinistr llwyr.

"Mae angen mwy o gefnogaeth. Dwi'n teimlo mor grac ac emosiynol am y peth."

Oes yna fynediad cyfartal at ofal plant?

Nac oes: dyna oedd canfyddiad Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd wnaeth ryddhau ei adroddiad ar 16 Gorffennaf ar ôl ymchwiliad o dros flwyddyn.

Roedd y pwyllgor o’r farn nad oedd mynediad at yr ysgol yn gyson gyfartal ledled Cymru, gydag enghreifftiau o arfer da yn ysbeidiol. 

Dywedodd yr adroddiad: "Yn rhy aml, mae'n rhy ddibynnol ar staff unigol neu deuluoedd yn gweithio'n galed. Does dim ffordd o wneud yn siŵr ei bod yn digwydd ar draws Cymru."

Mae’r pwyllgor hefyd wedi darganfod nad oes yna fynediad cyfartal at ofal plant ar hyn o bryd, gyda theithio pellter hir yn aml yn ofynnol, a dim digon yn cael ei wneud i lenwi’r bylchau mewn gofal cynhwysol i blant.

Dywedodd cadeirydd y pwyllgor, Buffy Williams AS, wrth ITV Cymru Wales mai dau o'r materion mwyaf oedd cyllid a hyfforddiant staff.

“Mae bron fel ein bod ni’n methu’r plant mwyaf bregus yn ein cymdeithas drwy beidio â sicrhau bod ganddyn nhw faes chwarae cyfartal o ran addysg,” meddai.

“Mae’n teimlo fel bod gennym ni nifer sylweddol o blant yng Nghymru sy’n cael eu methu a’u hanghofio.

"Mae'n bendant yn loteri cod post. Mae angen inni wneud mwy ac mae angen inni wneud yn well."

Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei ddweud? 

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae ein gorchwyl genedlaethol yn ymrwymo i chwalu rhwystrau i bob dysgwr. Ers 2020, rydym wedi buddsoddi mwy na £107m i gefnogi gweithredu ein diwygiadau ADY.

“Mae ehangu’r rhaglen ofal plant, Dechrau’n Deg, wedi cynyddu nifer y plant dwy oed sy’n gallu cael mynediad at ofal plant o safon wedi’i ariannu, ac wedi creu cyfleoedd i blant sydd gydag ADY gael cymorth cyn dechrau addysg i flynyddoedd cynnar yn dair oed.”

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) wedi gwrthod gwneud sylw.
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.