Penderfynu symud dros 2,500 o gleifion o un o feddygfeydd Sir Benfro
Penderfynu symud dros 2,500 o gleifion o un o feddygfeydd Sir Benfro
Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi penderfynu symud dros 2,500 o gleifion o un o feddygfeydd Sir Benfro.
Bydd y “mwyafrif llethol” o’r cleifion yn cael eu symud i feddygfa yn Solfach, a bydd cleifion sy'n byw yn agosach at Abergwaun a Hwlffordd yn cael eu dyrannu i feddygfeydd eraill.
Fe wnaeth meddygfa Tyddewi yng ngogledd y sir gyhoeddi rhagrybudd chwe mis y byddai yn rhoi’r gorau i’w chytundeb gyda’r bwrdd iechyd ym mis Ebrill.
Daw’r penderfyniad i rym ym mis Hydref ac roedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi cyfarfod ddydd Iau i drafod dyfodol y gwasanaeth.
Mae’r Bwrdd Iechyd wedi dweud eu bod nhw’n bwriadu ysgrifennu at bob un o’r 2,728 o gleifion i’w hysbysu o’r canlyniad.
Roedd y bwrdd wedi derbyn 1,068 ymateb i ymgynghoriad ar y pwnc gyda dros eu hanner yn dweud y byddai diffyg trafnidiaeth gyhoeddus yn gwneud symud meddygfa yn heriol.
Dywedodd cadeirydd y bwrdd iechyd, Dr Neil Wooding, eu bod nhw wedi “gwneud penderfyniad teg”.
“Nid yw tegwch bob tro am wneud beth fyddai pawb eisiau i ni ei wneud,” meddai.
“Mae am sicrhau ein bod ni wedi gwneud ein gorau – mi ydan ni wedi clywed ac wedi rhyngweithio.
“Ac wedi dod o hyd i ffordd drwodd sy’n deg ar y gymuned a’n cydnabod y sefyllfa heriol.”
Cytunodd y bwrdd iechyd i ymchwilio i sefydlu cangen yn Nhyddewi gan ddarparu 20 awr o ofal nyrsio.