Newyddion S4C

Dynes o'r Bala wedi treulio misoedd mewn cadair olwyn ar ôl cael ei tharo gan gyflwr iechyd prin

24/07/2024

Dynes o'r Bala wedi treulio misoedd mewn cadair olwyn ar ôl cael ei tharo gan gyflwr iechyd prin

"Mae'n flinder llethol, lle ti ddim yn gallu brwsho dy ddannedd. "

Mae'n flinder, ti methu codi allan o'r bath.

"Ti methu gwneud bwyd a ti methu gwneud bron ddim byd."

Mae Addison's yn taro wrth i system imiwnedd y corff ymosod ar y chwarren adrenal.

Llynedd, wnaeth iechyd Rhian ddirywio gymaint cafodd ei hanfon i'r ysbyty ar frys a hithau mor wan, fuodd mewn cadair olwyn am dros dri mis.

"O'n i ddim yn mynd allan o'r tŷ beth bynnag.

"O'n i 'di mynd mor wan bod y corff yn dechrau rhoi i fyny."

Mae gan tua 9,000 o bobl yn y Deyrnas Unedig glefyd Addison's ac mae dros 300 o achosion newydd yn cael ei diagnosio bob blwyddyn.

"Yma, mae'r cit efo'r chwistrelliad ynddo fo a dw i'n mynd a fo hefo fi.

"Dw i wastad yn cario un o'r rhain.

"Basa fo'n neis cael un o'r rhain yn Gymraeg achos mae ond yn Saesneg.

"Darn o bapur yn dweud be sy gen ti.

"Mae gen ti'r menig, y chwistrelliad a chi'n rhoi fo yn y nodwydd.

"Unwaith mae'r hylif yn fan'na ti'n gwneud be maen nhw'n gwneud yn y ffilms.

"Bach o hynna.

"Mae angen sicrhau bod digon o dabledi'n cael eu cymryd.

"Mae Sick Days Rules fel maen nhw'n galw nhw.

"Os wyt ti'n sâl, ti'n dyblu neu treblu dy ddos.

"Y peth mwyaf peryg efo'r cyflwr ydy bod ti'n gallu cael adrenal crisis.

"Wedyn, dyna lle mae'r injection yn dod i fewn.

"Ar ôl cael y diagnosis, o'dd o'n rhyddhad mawr ond dw i ddim 'di bod yr un person a 'di gorfod cael help mawr.

"Dw i 'di colli hyder, methu mynd allan o'r tŷ.

"Un peth efo clefyd Addison's ydy bod o'n anodd iawn cael diagnosis.

"Mae'n glefyd prin.

"Y peth pwysica ydy pa mor bwysig yw o i gario 'mlaen mynd at y meddyg."

Mae cefnogaeth teulu a ffrindiau wedi bod mor bwysig i Rhian gan nad ydy Addison's, fel nifer o gyflyrau difrifol eraill dim wastad yn weledol.

"O'n i ddim yn derbyn a ddim yn deall pa mor sâl o'n i wedi bod."

Mae Rhian yn angerddol dros godi ymwybyddiaeth.

Trwy siarad yn gyhoeddus, mae'r cam cyntaf wedi'i wneud.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.