Teulu bachgen fu farw mewn gwrthdrawiad am 'barhau i frwydro am gyfiawnder' ar ôl ennill apêl
Mae teulu bachgen 13 oed a fu farw ar ôl gwrthdrawiad yng Nghwm Cynon wedi dweud y byddan nhw’n parhau i frwydro am gyfiawnder.
Daw wedi iddyn nhw ennill apêl i ymestyn dedfryd gyrrwr y cerbyd a wnaeth ei ladd.
Bu farw Kaylan Hippsley o Hirwaun yn dilyn y gwrthdrawiad ar Heol Aberhonddu ar 29 Chwefror.
Fe gafodd Harley Whiteman, oedd yn 19 oed ar y pryd, ei ddedfrydu i chwe blynedd a naw mis yn y carchar ym mis Ebrill, yn ogystal â’i atal rhag gyrru am wyth mlynedd a phedair mis.
Roedd Mr Whiteman wedi gwrthdaro â Kaylan Hippsley tra'r oedd ef a’i ffrindiau yn cerdded i ganolfan lleol.
Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, cyhoeddodd Debbie Winter, sydd yn fam i un o chwiorydd Kaylan, bod y teulu wedi llwyddo yn eu hapêl i ymestyn dedfryd Mr Whiteman i naw mlynedd.
“Hoffwn roi gwybod i bawb ein bod wedi ennill ein hapêl… y ddedfryd newydd ydy naw mlynedd ac mi fydd e’n treulio chwe blynedd yn y carchar," meddai.
“Dyw hyn dal ddim yn ddigon a dyw e ddim chwaith yn adlewyrchu gwerth bywyd Kaylan, ond mae’n lot gwell na thair blynedd a hanner.
“Hoffwn ddiolch i bawb am eu cefnogaeth, cariad a gofal yn ystod y cyfnod heriol yma ac mi fyddwn ni’n parhau gydag ein deiseb er mwyn diogelu bywydau."
Fe ddechreuodd teulu Kaylan y ddeiseb wedi'r gwrthdrawiad gan alw am gyflwyno cyfraith newydd o'r enw Cyfraith Kaylan, a fyddai'n golygu cynyddu’r isafswm ar ddedfrydau am achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus.
'Gyrru'n beryglus'
Fe gafodd dedfryd Mr Whiteman, 20 oed, ei ymestyn i naw mlynedd yn Llys y Farn Frenhinol yn Llundain ddydd Mercher.
Bydd yn cael ei atal rhag gyrru am 11 mlynedd yn ogystal.
Clywodd y llys fod Mr Whiteman wedi yfed pedwar peint o alcohol mewn dau dafarn lleol, a’i fod dan ddylanwad cocên, cyn iddo daro Kaylan Hippsley.
Dywedodd Kelly Brocklehurst, oedd yn cynrychioli’r cyfreithiwr cyffredinol, wrth y llys fod Mr Whiteman wedi bod yn gyrru ar “gyflymder oedd yn hynod amhriodol” ar gyfer pentref.
Dywedodd fod Mr Whiteman wedi cyrraedd cyflymder o 60mya. Terfyn cyflymder yr ardal oedd 20mya.
Clywodd y llys fod Mr Whiteman hefyd wedi gadael safle’r gwrthdrawiad cyn dychwelyd ar draed.
Roedd hefyd wedi gwrthod profion gwaed i'r heddlu wedi’r digwyddiad.