Tlysau, Tifos a thrafferthion: Hanes cythryblus gwrthwynebwyr Caernarfon, Legia Warsaw

25/07/2024
tifo

Wrth i Glwb Pêl-droed Caernarfon baratoi ar gyfer eu gêm hanesyddol yn Warsaw nos Iau, fe fydd chwaraewyr Richard Davies yn wynebu'r profiad o chwarae mewn stadiwm anferth fydd bron yn wag.

Ergyd sylweddol i glwb a'u cefnogwyr sydd wedi aros blynyddoedd i gyrraedd Ewrop ac am y cyfle i chwarae yn erbyn un o gewri'r cyfandir.

Efallai y bydd gwacter Stadion Wojska Polskiego, Stadiwm y Fyddin Bwylaidd, o fantais i'r tîm o Wynedd, gan fod cefnogwyr Legia Warsaw yn ffyrnig o gefnogol i'w clwb.

Mae carfan fechan o'r cefnogwyr hynny, yr ultras, wedi creu anhrefn mewn nifer o gemau dros y blynyddoedd.

Image
Legia
Stadiwm y Fyddin Bwylaidd, cartref Legia Warsaw (Llun: Wikimedia)

Fe wnaeth UEFA wahardd Legia rhag gwerthu tocynnau i bump o gemau oddi cartref Ewropeaidd y clwb y llynedd, yn dilyn golygfeydd treisgar cyn eu gêm yn erbyn Aston Villa yng Nghyngres Europa.

Dywedodd UEFA hefyd ym mis Mai na fyddai'r clwb yn cael gwerthu tocynnau i'w gêm nesaf gartref yn Warsaw, ar ôl i gefnogwyr ddangos baner ddadleuol mewn gêm yng Nghyngres Europa y tymor diwethaf.

O ganlyniad, fe fydd y stadiwm sydd yn dal dros 31,000 o gefnogwyr, yn wag nos Iau.

Tifos

Mae cefnogwyr mwyaf tanbaid Legia'n enwog am eu daliadau asgell dde, eu trais achlysurol a'u 'Tifos' trawiadol - sef y baneri anferth sydd yn gwatwar eu gwrthwynebwyr ac UEFA yn aml o eisteddle Żyleta yn y stadiwm.

Cafodd un faner 'Tifo' ddiweddar ei beirniadu'n hallt gan Asiantaeth Ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig yng Ngwlad Pwyl - a hynny am fygwth ffoaduriaid i'r wlad. 

Roedd y faner yn dangos y neges 'Croeso i Ffoaduriaid' - gan gynnwys darlun o Bwyliaid mewn gwisgoedd traddodiadol yn gafael mewn morthwylion a phen mochyn.

Fe wnaeth y clwb ei hun ymbellhau o neges eu cefnogwyr mwyaf eithafol, gyda gwleidyddion yn y brifddinas yn galw am gamau yn eu herbyn.

Tlysau

Efallai bod carfan fechan o gefnogwyr Legia Warsaw wedi dwyn sylw'r penawdau newyddion am y rhesymau anghywir dros y blynyddoedd, ond mae gan y clwb ei hun hanes o lwyddiant ar y cae pêl-droed fel un o brif dimau Gwlad Pwyl ers ei sefydlu yn 1916.

Fel llawer o glybiau dwyrain Ewrop oedd wedi datblygu yn ystod y cyfnod Comiwnyddol, mae gwreiddiau Legia yn deillio'n ôl i'r lluoedd arfog. 

Mae enw swyddogol eu stadiwm - 'Stadiwm Ddinesig y Cadlywydd Jósef Piłsudski, Legia Warszawa', yn awgrym o hanes a chysylltiad y clwb gyda'r lluoedd hynny.

Clwb y fyddin oedd Legia'n draddodiadol, ac roedd hyn yn destun drwgdeimlad ymysg cefnogwyr clybiau eraill y wlad am ddegawdau, wrth i'r fyddin gadw trefn a gormes yr awdurdodau dros y bobl.

Daeth cysylltiad y fyddin gyda'r clwb i ben yn 90au'r ganrif ddiwethaf wrth i'r wlad ruthro i ddyfodol cyfalafol newydd, ond mae'r hen ddrwgdeimlad yn parhau hyd heddiw.

Ar y cae, mae Legia'n chwarae ym mhrif gynghrair Gwlad Pwyl, yr Ekstraklasa, ac yn y pumed safle wedi un gêm yn unig y tymor hwn.

Fe gyrhaeddodd y clwb rownd gyn-derfynol Cwpan Ewrop yn 1970 a chyrraedd safle'r grwpiau yng Nghynghrair Pencampwyr Ewrop yn 2016/17 – gan lwyddo i gael gêm gyfartal 3-3 yn erbyn Real Madrid.

Mae'r clwb wedi ennill y gwpan yng Ngwlad Pwyl 16 o weithiau a dod i'r brig yng nghynghrair y wlad 20 o weithiau.

Does dim amheuaeth fod gan Gaernarfon fynydd serth ac uchel iawn i'w ddringo yn Warsaw felly.

Mae un darn o hanes arbennig yng Ngwlad Pwyl yn cael ei adnabod fel 'Y wyrth ar y Vistula' - wedi i Jósef Piłsudski frwydro byddin Rwsia yn ôl o Warsaw a'r afon Vistula sy'n rhedeg drwy'r ddinas pan oedd ond y dim i'r wlad gael ei gormesu gan luoedd Lenin yn 1921.

Mae Piłsudski yn arwr cenedlaethol i'r Pwyliaid ers hynny, a'i enw sydd ar stadiwm Legia hyd heddiw.

Fe fydd angen gwyrth arall ar y Vistula nos Iau os yw dynion Richard Davies am ddychwelyd i Gymru gydag unrhyw obaith ar gyfer yr ail gymal yn erbyn y Pwyliaid.

Ond os oes un peth sy'n byrlymu yng ngwythiennau cefnogwyr Caernarfon erioed, gobaith yw hwnnw.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.