Newyddion S4C

Plismyn yn goruchwylio ardal Llanberis oherwydd tor-cyfraith

23/07/2024
Llanberis
Bydd presenoldeb plismyn yn amlwg yn Llanberis a'r ardal gyfagos nos Fawrth wedi cynnydd mewn achosion o fwrgleriaeth yn ddiweddar. 
 
Cyhoeddodd yr heddlu y bydd swyddogion yn cael eu hanfon i’r ardal gan bwysleisio bod bwrgleriaeth yn "drosedd ddifrifol na chaiff ei goddef gan Dîm Plismona Gogledd Gwynedd."
 
Ychwanegodd yr heddlu bod troseddau o'r fath yn achosi "tor-calon i berchnogion busnesau sy’n gweithio mor galed, a theuluoedd fel ei gilydd".
 
Mae'r llu wedi rhoi rhybudd i ddrwgweithredwyr: "Os fyddwch allan yn crwydro gyda’r bwriad o dorri’r gyfraith a throseddu, yna bydd swyddogion yr heddlu yn fwy na pharod i ymgysylltu gyda chi, gan arestio drwgweithredwyr lle bo angen gwneud hynny, cyn archwilio unrhyw droseddau er mwyn cael erlyniad yn y llysoedd."
 

Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Heddlu Gogledd Cymru eu bod yn ymchwilio i fwrgleriaeth a thair ymgais i ladrata yn Llanberis, gan apelio am wybodaeth.

Cafodd tri adeilad busnes a masnachol eu targedu, nos Fercher a Iau.

A chafodd trigolion yr ardal gyngor gan yr heddlu: “Buaswn yn erfyn ar y gymuned ystyried diogelwch eu heiddo, gan gynnwys cloi ffenestri a drysau, sicrhau nad ydy eitemau drud yn y golwg, a gwirio bod CCC a larymau wedi’u troi ymlaen."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.