Canwr band poblogaidd yn ‘sefydlog’ yn yr ysbyty ar ôl perfformio yn Sesiwn Fawr Dolgellau
Roedd yn rhaid i un o artistiaid amlycaf Cymru dorri eu set yn fyr yn ystod ymddangosiad yn un o brif wyliau cerddorol y wlad dros y penwythnos.
Roedd Cowbois Rhos Botwnnog yn perfformio yng ngwesty’r Ship yn Nolgellau nos Wener, fel rhan o ddigwyddiadau’r Sesiwn Fawr yn y dref.
Fe gafodd set y band ei thorri’n fyr wedi i brif leisydd a gitarydd y band gael ei daro’n wael, ac fe gadarnhaodd y band yn ddiweddarach, fod Iwan Huws yn derbyn triniaeth yn yr ysbyty ac mewn cyflwr “sefydlog”.
Dywedodd y datganiad gan y grŵp o Ben Llŷn nos Sadwrn: “Diolch bawb ddaeth i Sesiwn Fawr Dolgellau neithiwr. Yn anffodus bu’n rhaid torri’r set yn fyr am resymau iechyd. Mae Iwan bellach yn sefydlog yn yr ysbyty ac yn derbyn y gofal gorau posib.”
Ym mis Ebrill eleni, fe adroddodd Newyddion S4C hanes Iwan yn dychwelyd i’r byd cerddoriaeth wedi seibiant ar ôl iddo dderbyn llawdriniaeth ar y galon.