Josh Tarling yn paratoi at rasio yn y Tour de France am y tro cyntaf
Bydd y seren seiclo o Geredigion, Josh Tarling, yn rasio yn y Tour de France am y tro cyntaf eleni wrth i’r ras ddechrau yn Barcelona ddydd Sadwrn.
Y gŵr o Ffos-y-ffin ger Aberaeron yw’r unig Gymro fydd yn cymryd rhan yn y ras dair wythnos eleni, a hynny wedi iddo wella ar ôl torri pont ei ysgwydd tair wythnos yn ôl.
Yn arbenigwr wrth rasio yn erbyn y cloc, daeth y seiclwr 22 oed yn bedwerydd yng Ngemau Olympaidd Paris yn 2024, ac fe ddaeth yn drydydd ym Mhencampwriaeth y Byd yn 2023.
Eleni, fydd un ras yn erbyn y cloc unigol yn rhan o'r ras felly mae’n edrych yn debyg mai cymal 16 – ar 21 Gorffennaf – yw cyfle gorau Tarling i gipio cymal yn y ras.
Yn ôl Josh: "Dwi'n hapus iawn ac yn edrych ymlaen yn fawr amdani [y ras]. Mae gennym dîm pwerus ac felly dwi'n gyffrous gyda'r tîm sydd gyda ni ar gyfer y ras yn erbyn y cloc a'r cymalau felly byddwn ni'n cael Tour da gyda'n gilydd."
Mae Tarling yn rhan o dîm Netcompany-Ineos, ble mae ei gyd Gymro a chyn enillydd y ras, Geraint Thomas, bellach yn gweithio fel Cyfarwyddwr Rasio’r tîm ar ôl ymddeol o seiclo y llynedd.
Dywedodd Geraint Thomas, Cyfarwyddwr Rasio tîm Netcompany-Ineos, "Mae'r tîm hwn wedi cael rasys gwych mae pobl yn mwynhau eu gwylio.
"Byddant yn cael rhyddid i fynd amdani gan rasio yn ymosodol dros yr wythnosau. Mae ffawd yn ffafrio'r dewr. Dydyn ni heb ddod i'r Tour yma i ddilyn y ras - rydym wedi dod i'w siapio.
"Mae'n mynd i fod yn brysur ac rydym yn barod i ymgymryd â'r her."
