Newyddion S4C

Cau rhan o'r Afon Gwy ar ôl darganfod lefel uchel o facteria 'niweidiol'

Afon Gwy - nofiwr trist

Mae rhan o’r Afon Gwy wedi ei chau i nofwyr oherwydd pryderon am facteria niweidiol yn y dŵr.

Fis diwethaf, fe gafodd rhan o’r afon, ger gweirglodd a’i henwir yn Y Warin, ger y Gelli Gandryll, ei glustnodi yn un sydd â dŵr sy’n addas ar gyfer nofio.

Daw hynny wedi i grŵp Cyfeillion Afon Gwy roi pwysau ar Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i roi’r statws i’r rhan yma o’r afon, sydd yn boblogaidd gyda nofwyr. 

Mae’r afon nawr yn cael ei phrofi’n rheolaidd am lygredd gan CNC rhwng mis Mai a mis Medi – yr afon gyntaf yng Nghymru i dderbyn profion o’r fath.

Ond yn dilyn y prawf cyntaf, a’i cynhaliwyd fis yma, fe wnaeth y canlyniadau ddangos lefelau uchel o facteria.

Mae'r canlyniadau yn awgrymu fod yr afon saith gwaith yn uwch na'r lefel derbyniol o facteria E. coli, a phum gwaith yn uwch na'r lefel derbyniol o Enterococcus, na'r hyn sy'n cael ei ystyried yn ddiogel i’w nofio ynddo.

Fe allai’i ddau bathogen achosi sawl clefyd ar y stumog.

O ganlyniad, mae CNC a Chyngor Sir Powys wedi cau’r rhan yna o’r dŵr am gyfnod amhenodol.

'Codi llawer o gwestiynau'

Dywedodd Cynghorydd y Gelli Gandryll, Gareth Ratcliffe y byddai cau’r afon i nofwyr “yn cael effeithiau andwyol ar drigolion lleol ac ymwelwyr”, ac mae wedi galw ar CNC a swyddogion y cyngor i ymchwilio i ffynhonnell y llygredd.

Ychwanegodd y Cynghorydd Radcliffe, er bod yr afon wedi’i phrofi’n flaenorol am ffosffadau, sydd yn cael eu hystyried y llygrydd mwyaf niweidiol i’r amgylchedd i’r afon, “mae’r newidiadau mewn statws i ddŵr nofio wedi arwain at brawf ehangach gan CNC sydd wedi tynnu sylw at y broblem bacteria”.

Mae darganfod lefelau uchel o facteria a allai fod yn niweidiol ar yr ymgais gyntaf “yn codi llawer o gwestiynau y mae angen inni gael atebion iddyn nhw”, meddai.

Bydd profion ar ddŵr yr afon yn parhau i gael eu cymryd bob pythefnos.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyfeillion Afon Gwy: “Rydym ymhell o fod wedi synnu [fod bacteria] wedi eu darganfod yn y lle braf hwn.

“Does bosib na all llywodraethau Cymru a’r DU, a’r asiantaethau sydd â’r dasg o amddiffyn ein hamgylchedd, anwybyddu mwyach y llygredd sy'n rhemp yn yr afon."

Fe wnaethon nhw awgrymu y gallai’r bacteria ddod o garthion dynol, gwastraff anifeiliaid neu’r ddau, gan ychwanegu ei fod yn “bryderus iawn, beth bynnag fo’r ffynhonnell”.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.