Glyndyfrdwy: Hedfan beiciwr modur i’r ysbyty ar ôl gwrthdrawiad
Mae beiciwr modur wedi ei hedfan i’r ysbyty gydag anafiadau difrifol yn dilyn gwrthdrawiad ffordd ar yr A5 yng Nglyndyfrdwy rhwng Corwen a Llangollen.
Am 11:52 ddydd Iau cafodd yr heddlu wybod am wrthdrawiad dau gerbyd rhwng Toyota Granvia arian a beic modur BMW RT coch.
Cafodd y beiciwr, dyn 78 oed, ei gludo mewn ambiwlans awyr i ysbyty yn Stoke lle mae’n derbyn triniaeth.
Dywedodd yr heddlu brynhawn Iau eu bod nhw wedi cau’r ffordd wrth iddyn nhw ymchwilio.
Dywedodd y Sarjant Alun Jones o’r Uned Troseddau Ffyrdd ei fod yn apelio am dystion.
“Rydym yn annog unrhyw un a allai fod wedi bod yn dyst i’r gwrthdrawiad, neu unrhyw un a allai fod wedi bod yn teithio’n agos at y lleoliad hwn ac a allai fod â lluniau camera cerbyd, i gysylltu â ni,” meddai.
Maen nhw’n gofyn i unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â swyddogion yn yr Uned Troseddau Ffyrdd, naill ai drwy’r wefan neu drwy ffonio 101, gan ddyfynnu’r cyfeirnod Q104866.