Dynes ifanc mewn cyflwr difrifol wedi gwrthdrawiad ger Llangollen
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am wybodaeth ar ôl i ddynes 19 oed ddioddef anafiadau difrifol mewn gwrthdrawiad ger Llangollen yn gynnar fore dydd Sul.
Cafodd yr heddlu eu galw i'r digwyddiad yn dilyn adroddiadau fod cerbyd Renault Clio du mewn gwrthdrawiad yn ardal Y Berwyn ger Gwesty'r Chain Bridge am hanner nos.
Fe gafodd y ddynes ei chludo i Ysbyty Wrecsam Maelor wedi'r gwrthdrawiad, cyn cael ei throsglwyddo i Ysbyty Stoke gydag anafiadau oedd wedi peryglu ei bywyd.
Mae'r heddlu wedi cyhoeddi bod gyrrwr 27 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o yrru o dan ddylanwad alcohol ac mae bellach wedi'i ryddhau o dan ymchwiliad tra mae ymholiadau yn parhau.
Cafodd y gyrrwr hefyd ei gludo i Ysbyty Wrecsam Maelor gyda mân anafiadau.
Dywedodd Sarjant Meurig Jones o Uned Plismona'r Ffyrdd Heddlu'r Gogledd: "Rydym yn apelio ar unrhyw un oedd wedi gweld y dyn a'r ddynes yn y Bridge Inn yn Llangollen yn hwyr ar nos Sadwrn, 3 Gorffennaf, i gysylltu gyda ni ar unwaith.
"Unrhyw un sydd â gwybodaeth i ni, yna cysylltwch drwy ddefnyddio gwefan Uned Plismona'r Ffyrdd Heddlu Gogledd Cymru, neu ffonio 101, gan ddefnyddio'r cyfeirnod 21000465060."