Newyddion S4C

Dadgomisiynu Ysbyty Enfys Bangor i ddechrau'r wythnos hon

05/07/2021
Canolfan Brechu, Bangor [NS4C]
Canolfan Brechu, Bangor

Fe fydd y broses o ddadgomisiynu'r ysbyty dros dro ym Mangor yn dechrau'r wythnos hon.

Daw hyn fel rhan o gynllun Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr i ddatgomisiynu Ysbyty Enfys Bangor, sydd wedi ei lleoli yng Nghanolfan Brailsford, ger Bangor Uchaf, a hynny erbyn mis Medi. 

Bydd modd i bobl gael eu brechu yng Nghadeirlan Bangor o ddydd Llun ymlaen.

Yn ogystal â hyn, mae clinigau yn cael eu sefydlu yng Nghanolfan Hamdden a Thenis (Byw'n Iach Arfon) Caernarfon ac yn cael eu cynnal ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau'r haf. 

Cafodd Ysbyty Enfys Bangor ei sefydlu yng Nghanolfan Brailsford yn Ebrill 2020, ynghyd ag Ysbytai Enfys yn Venue Cymru yn Llandudno a Chanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy yn Sir y Fflint. 

Dywedodd Ffion Johnstone, Cyfarwyddwr Ardal Gorllewin Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr:  "Hoffem ddiolch i'n partneriaid, contractwyr, cymunedau lleol, staff a gwirfoddolwyr am eu holl ymdrechion yn ystod y llynedd wrth i ni ddechrau cyfnod dadgomisiynu Ysbyty Enfys Bangor. 

"Rydym yn hynod ddiolchgar i Brifysgol Bangor, Cyngor Gwynedd a Chyngor Ynys Môn am ddod ynghyd yn gynnar yn y pandemig a'i gwneud hi'n bosib i'r cyfleusterau fod ar gael i ni. 

"Diolch byth nad oeddem yn gofalu am unrhyw gleifion yn yr ysbyty ond rydym yn falch iawn ein bod wedi gallu defnyddio  Ysbyty Enfys Bangor i frechu miloedd o bobl yn ein cymunedau."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.