Newyddion S4C

Mwy o hyblgrwydd i ddod â ffyrdd 30mya yn ôl

16/07/2024
Ken Skates 20mya

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau newydd ar ba ffyrdd ddylai fod yn 20mya, gan gynnig mwy o hyblygrwydd i gynghorau lleol ddod a ffyrdd 30mya yn ôl.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth, Ken Skates, mai’r nod oedd “cefnogi awdurdodau priffyrdd wrth wneud penderfyniadau” ar derfynau cyflymder.

Mae’r canllawiau newydd yn galw ar adwurdodau lleol i gydbwyso manteision ac anfanteision gostwng neu godi y terfyn cyflymder.

Cafodd y teyrfyn 20mya newydd ei gyflwyno gan y llywodraeth fis Medi diwethaf, ond mae’r newid wedi bod yn ddadleuol, gyda dros 469,000 yn arwyddo deiseb yn erbyn y newid.

Mae gan gynghorau eisoes yr hawl i eithro rhai ffyrdd o’r terfyn 20mya ond mae disgwyl i’r canllawiau newydd roi mwy o le iddyn nhw wneud hynny.

O fis Medi ymlaen, gall awdurdodau priffyrdd ddechrau defnyddio'r fframwaith newydd.

Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth ei fod yn “hynod ddiolchgar” am adborth pobl.

"Mae wedi bod yn wych gweld cymaint o bobl yn cymryd rhan,” meddai.

"Roedd y data diweddar am wrthdrawiadau i Gymru a'r gostyngiad mewn anafiadau'n galonogol.

"Mae gennym gryn ffordd i fynd eto, ond mae'n galonogol gweld bod pethau'n symud i'r cyfeiriad cywir. 

“Drwy weithio mewn partneriaeth a thrwy eich cefnogi i wneud newidiadau lle mae'n iawn gwneud hynny, credaf y gallwn sicrhau bod 20mya yn llwyddiant yng Nghymru."

‘Arian ar gael’

Dywedodd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ei fod yn”croesaw” adolygu’r canllawiau gwreiddiol.

"Nid yw'r rhain yn benderfyniadau hawdd i gynghorau ac mae diogelwch yn parhau i fod yn flaenoriaeth i ni,” meddai.

“Bydd angen lefel uchel o hyder, os a lle codir y terfyn yn ôl i 30mya, na fydd yn arwain at yr union risgiau y cafodd y polisi eu llunio i liniaru."

Mae'r canllawiau newydd wedi'u datblygu ar y cyd ag awdurdodau priffyrdd, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, a Chymdeithas Syrfëwyr Sirol Cymru.

Mae’n dilyn Rhaglen Wrando Genedlaethol dan arweiniad Ysgrifennydd Cabinet Gogledd Cymru a Thrafnidiaeth, Ken Skates, meddai.

“Mae disgwyl i nifer y ffyrdd a adolygir amrywio'n sylweddol yn dibynnu ar faint o adborth a dderbynnir gan bob awdurdod priffyrdd, ac o ganlyniad bydd yr amserlenni ar gyfer cyflawni newid yn amrywio o un awdurdod lleol i'r llall,” meddai Llywodraeth Cymru.

“Rydym am greu fframwaith ar y cyd sy'n cefnogi awdurdodau priffyrdd i wneud y penderfyniadau cywir ar gyfer ffyrdd lleol, yn enwedig pan fo hynny yn gymhleth. 

“Cyn bo hir, gwahoddir awdurdodau lleol i gyflwyno ceisiadau am gyllid iddynt allu gwneud newidiadau i derfynau cyflymder yn unol â'r canllawiau newydd. 

“Mae £5m ychwanegol ar gael ar gyfer y flwyddyn ariannol hon.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.