Teyrnged i 'dad arbennig' fu farw mewn gwrthdrawiad ger Y Fenni
Mae teulu dyn 36 oed fu farw mewn gwrthdrawiad ffordd yn Y Fenni ddydd Gwener wedi rhoi teyrnged iddo.
Bu farw Christopher Simmonds o Bont-y-pŵl yn ardal y gwrthdrawiad ger Pwll Pen-ffordd-goch.
Mewn teyrnged iddo, dywedodd ei deulu: "Ddydd Gwener fe gafodd ein byd ei droi ben ei waered pan y cawsom ni wybod ein bod ni wedi colli Chris.
"Yn ŵr i Danielle ac yn dad arbennig i Ella, Alfie a Poppy, mab annwyl Mike a Sandra a brawd ffyddlon Mikey a Carly, a ffrind gorau Jon a Jamie.
"Bydd ein byd yn dywyllach am byth hebddo.
"Roedd ei chwerthin heintus a'i wên garedig yn gwneud i bobl deimlo yn ddiogel.
"Roedd yn addoli ei blant ac yn cefnogi Ella gyda'i chic-focsio neu ar ochr y cae yn cefnogi Alfie neu yn hyfforddi Poppy-Jean.
"Roedd hapusaf yn yr ardd yn gwrando ar gerddoriaeth dda wedi ei amgylchynu gan ei deulu - dyn syml."
Mae'r heddlu yn ymchwilio i'r gwrthdrawiad ac yn apelio ar dystion.
Roedd y gwrthdrawiad yn ymwneud ag un cherbyd sef Vauxhall Vivaro gwyn a oedd yn teithio tuag at bentref Gofilon.
Mae'r heddlu yn apelio ar unrhyw un sydd gan wybodaeth i gysylltu â nhw gan ddefnyddio'r cyfeirnod 2400231286.