Cyhuddo dyn o fod â dryll yn ei feddiant wedi digwyddiad yng Nghaerdydd
15/07/2024
Mae dyn wedi cael ei gyhuddo o fod â dryll ffug yn ei feddiant wedi digwyddiad yng Nghaerdydd.
Ymddangosodd Marcus Cronin, 28, o Dre-Biwt yn Llys Ynadon Caerdydd wedi ei gyhuddo o fod â dryll ffug yn ei feddiant gyda'r bwriad o achosi pryder a thrais.
Mae'n parhau yn y ddalfa tan y gwrandawiad nesaf ym mis Awst.
Cafodd yr heddlu eu galw i Heol Eglwys Fair wedi adroddiadau o ddyn gydag arf ger siop Spar am tua 23:20 ar 3 Gorffennaf.
Ni chafodd unrhyw un eu hanafu, ac fe gafodd y dyn ei arestio yn y fan a'r lle.
Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth yn ymwneud â'r digwyddiad i gysylltu gan ddefnyddio'r cyfeirnod 2400221400.