Gweddillion dynol wedi cael eu darganfod wrth chwilio am Jay Slater
Mae heddlu ar ynys Tenerife wedi dweud bod gweddillion dynol wedi cael eu darganfod yn agos i le aeth y llanc Jay Slater ar goll.
Diflannodd y bachgen 19 oed o Oswaldtwistle, Sir Gaerhirfryn tra ar wyliau ar yr ynys ar 17 Mehefin.
Er nad yw'r gweddillion wedi cael eu hadnabod yn ffurfiol eto, mae'r heddlu yn dweud bod y dystiolaeth yn awgrymu'n gryf mai gweddillion Jay Slater ydyn nhw.
“Mae uned achub mynydd y Gwarchodlu Sifil wedi dod o hyd, ar ôl 29 diwrnod o chwilio’n ddi-baid, gorff dyn ifanc yn ardal Masca,” meddai llefarydd ar ran y llu.
“Mae’r holl dystiolaeth yn awgrymu, gyda'r broses adnabod ffurfiol yn dal angen ei chynnal, mai dyma’r dyn ifanc o Brydain a ddiflannodd ar 17 Mehefin.”
Yn ôl datganiad gan heddlu Sbaen, mae'r dystiolaeth ar hyn o bryd yn awgrymu ei fod "wedi cael damwain/cwympo yn y fan lle cafodd ei ddarganfod"
Cafodd Mr Slater ei weld ddiwethaf ar lwybr ar dir mynyddig ym mharc cenedlaethol Rural de Teno.
Mae ffrindiau a theulu Mr Slater wedi dweud ei fod wedi gadael y grŵp y bu'n teithio gyda nhw yn gynharach yn nhref Playa de las Americas yn ne’r ynys.
Ar ôl gadael gŵyl gerddoriaeth NRG yng nghlwb nos Papagayo, aeth i mewn i gar gyda dau ddyn roedd wedi eu cyfarfod, gan deithio i ardal y parc cenedlaethol yng ngogledd-orllewin Tenerife.
Y bore canlynol, cafodd ei weld yn gofyn am amseroedd bws mewn pentref anghysbell, cyn iddo ddechrau cerdded oddi yno.