Newyddion S4C

Ddiwrnod ar ôl cael ei saethu Trump yn mynd i'r gynhadledd

15/07/2024
Donald Trump yn cyrraedd Milwaukee

Mae Donald Trump wedi cyrraedd Milwaukee ar gyfer cynhadledd y Blaid Weriniaethol ddiwrnod yn unig wedi iddo gael ei saethu.

Fe ddywedodd mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol ei fod wedi ystyried oedi'r daith ond fe benderfynodd nad oedd yn gallu gadael i'r hyn ddigwyddodd "newid yr amserlen". 

Mewn cynhadledd newyddion brynhawn Sul fe ddywedodd Audrey Gibson-Cicchino, cydlynydd diogelwch ar gyfer Gwasanaeth Cudd yr Unol Daleithiau na fyddai unrhyw newidiadau i'r cynllun diogelwch.

Mae disgwyl i tua 50,000 o bobl fynychu’r gynhadledd sydd yn para pedwar diwrnod.

Yn y cyfamser mae'r Brenin Charles wedi anfon llythyr preifat at Mr Trump.

Cafodd Donald Trump ei anfon i'r ysbyty gydag anafiadau wedi i ddyn saethu ato mewn rali yn Pennsylvania ddydd Sadwrn.

Roedd lluniau teledu o'r digwyddiad yn dangos Mr Trump yn disgyn i'r llawr cyn cael ei amgylchynu gan swyddogion o'r gwasanaethau cudd.

Fe gododd ar ei draed ar ôl tua munud gyda gwaed ar ei glust dde a'i foch, cyn gweiddi 'Fight! Fight!' at ei gefnogwyr yn y dorf.

Cafodd y dyn oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad ei saethu'n farw. Ei enw oedd Thomas Matthew Crooks, oedd yn 20 oed meddai'r FBI.

Roedd Crooks yn dod o Barc Bethel, Pennsylvania, tua awr o'r lle y cynhaliwyd y rali.

Roedd yn Weriniaethwr cofrestredig, yn ôl cofnodion pleidleiswyr y wladwriaeth.

Ond yn ôl Reuters, pan oedd Crooks yn 17 oed, fe wnaeth gyfraniad o $15 i ActBlue, sef pwyllgor gweithredu gwleidyddol sy'n codi arian ar gyfer gwleidyddion adain chwith a Democrataidd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.