Newyddion S4C

Heddlu yn arestio dyn wedi i weddillion dynol gael eu darganfod ym Mryste

13/07/2024
Clifton

Mae dyn wedi ei arestio wedi i weddillion dynol dau ddyn gael eu darganfod mewn cesys ym Mryste

Fe wnaeth Heddlu Avon a Gwlad yr Haf arestio dyn 34 oed yng ngorsaf drenau Temple Meads yn y ddinas, yn ystod oriau man bore Sadwrn, a'i rhoi yn y ddalfa.

Daw wedi i ragor o weddillion gael eu darganfod mewn fflat yn Llundain.

Cafodd y gweddillion eu darganfod mewn fflat ar Heol Scotts, Shepherd's Bush ddydd Gwener.

Mae swyddogion yn credu bod y gweddillion dynol yn Llundain a'r rhai gafodd eu darganfod deuddydd yn ôl ar Bont Grog Clifton yn perthyn i'r un ddau ddyn.

Dywedodd y dirprwy gomisiynydd cynorthwyol Heddlu'r Met, Andy Valentine: “Mae hwn yn ymchwiliad sy’n symud yn gyflym gyda ditectifs yn Llundain a Bryste yn mynd ar ôl nifer o drywyddau ymholi."

Ychwanegodd y llu fod dyn 36 oed gafodd ei arestio mewn cysylltiad â'r ymchwiliad yn Greenwich ddydd Gwener wedi cael ei ryddhau'n ddigyhuddiad.

Daw ar ôl i swyddogion dderbyn adroddiad nos Fercher am ddyn gyda chês dillad yn ymddwyn yn amheus ar Bont Grog Clifton.

O fewn 10 munud, roedd yr heddlu wedi cyrraedd y lleoliad ond roedd y dyn wedi gadael yr ardal. Cafwyd hyd i ail gês dillad gerllaw.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.