Gradd er anrhydedd i Syr Alan Bates gan Brifysgol Bangor

Mae Syr Alan Bates wedi derbyn gradd er anrhydedd gan Brifysgol Bangor.
Dywedodd y cyn is-bostfeistr o Ogledd Cymru, bod y wobr yn ychwanegu “lliniyn arall i’w fwa” yn ei frwydr am gyfiawnder o ganlyniad i sgandal Horizon Swyddfa'r Post.
Derbyniodd ddoethuriaeth anrhydeddus yn y gyfraith i gydnabod ei frwydr i glirio enwau cannoedd o is-bostfeistri a fu'n rhan o un o gamweinyddiadau cyfiawnder mwyaf yn hanes y DU.
Derbyniodd y sgandal sylw cenedlaethol yn dilyn darlledu drama ITV 'Mr Bates VS The Post Office'.
Roedd y ddrama’n darlunio stori Mr Bates wrth iddo geisio datgelu’r gwir am anghysondebau cyfrifo yn ystod ei gyfnod fel is-bostfeistr.
Roedd yn un o dros 550 o weithwyr a ddaeth ag achos cyfreithiol yn erbyn Swyddfa'r Post am wallau system gyfrifiadurol Horizon rhwng 2017 a 2019.
Cafodd mwy na 700 o is-bostfeistri eu herlyn a derbyn euogfarnau rhwng 1999 a 2015, wrth i system ddiffygiol Fujitsu wneud iddi ymddangos fel petai arian ar goll yn eu canghennau.
Dywedodd Syr Alan yn y seremoni raddio: “Un o’r pethau y mae sgandal y Swyddfa Bost yn ei ddangos yn eithaf amlwg yw bod pethau’n mynd yn anghywir.
"Ond pan mae pethau’n mynd yn anghywir peidiwch â'i guddio - oherwydd gall y cuddio fod yn waeth na'r drosedd."
Roedd Syr Alan wedi bod yn rhedeg y Swyddfa Bost yn ei siop yng Nghraig-y-Don, ger Llandudno, ers blynyddoedd heb unrhyw broblem.
Yn fuan ar ôl i system gyfrifo Horizon gael ei chyflwyno, dechreuodd anghysondebau anesboniadwy ymddangos.
Er iddo gwyno sawl tro i Swyddfa'r Post am y system newydd, yn 2003, cafodd cytundeb gwaith Syr Alan ei ddarfod heb reswm.
Roedd hyn yn golygu colli ei fuddsoddiad o dros £60,000 yn ei siop.
Sefydlodd Syr Alan ymgyrch yn 2009, ac fe arweiniodd hyn at ddileu euogfarnau yn erbyn yr is-bostfeistri.
Ond, fe wnaeth yn glir yn ei araith fod y "frwydr yn parhau", ac nid yw'r frwydr dros gyfiawnder "ar ben eto."
Ychwanegodd: "Mae angen i bobl gymryd cyfrifoldeb am eu gweithredoedd, a gobeithio y byddwch chi'n gwneud hynny pan ewch chi ymlaen o'r fan hon."
Roedd cyn bostfeistr Ynys Môn, Noel Thomas, a gafodd ei garcharu ar gam oherwydd gwallau Horizon, hefyd yn bresennol.
Cafodd Mr Thomas hefyd ddoethuriaeth er anrhydedd am ei ran yn yr ymgyrch mewn seremoni yn gynharach yn yr wythnos.
Llun: Prifysgol Bangor