Joe Biden yn gwrthod pryderon er iddo alw Zelensky yn 'Putin' yng nhyngres NATO
Mae’r Arlywydd Biden wedi gwrthod pryderon am ei ymgyrch arlywyddol er iddo wneud camsyniadau ychwanegol yng nghyngres NATO.
Yng nghwmni arweinwyr gwledydd NATO ac ystafell o newyddiadurwyr, fe wnaeth Mr Biden gyflwyno arlywydd Wcrain, Volodymyr Zelensky fel "yr Arlywydd Putin", sef arlywydd Rwsia.
Mae Wcráin wedi bod mewn rhyfel gyda Rwsia ers mis Chwefror 2022. Fe wnaeth gywiro ei hun yn gyflym ar ôl hynny.
Mewn cynhadledd i’r wasg yn ddiweddarach, dywedodd yr Arlywydd Biden ei fod yn gwrthod pryderon am ei ymgyrch a godwyd dro ar ôl tro am awr gyfan gan ystafell yn llawn o ohebwyr.
Inline Tweet: https://twitter.com/Independent/status/1811527257317380172
Fe addawodd ei fod yn ymladd nid am ei etifeddiaeth, ond i orffen y swydd a ddechreuodd yn 2021.
Dywedodd: “Os ydw i’n arafu ac yn methu â chyflawni’r swydd, mae hynny’n arwydd na ddylwn i fod yn ei wneud,” meddai. “Ond does dim arwydd o hynny eto.”
Yn ei ateb cyntaf, galwodd ei Is-lywydd Kamala Harris yn "Is-lywydd Trump".
Ychydig funudau ar ôl i’r gynhadledd newyddion ddod i ben, galwodd sawl aelod Democrataidd arall o’r Gyngres yn gyhoeddus ar Mr Biden i ymddiswyddo, gan ymuno ag o leiaf dwsin o rhai eraill ym mhlaid yr arlywydd.
Daw'r camgymeriadau wedi i ddau gyfaill enwog, yr actorion George Clooney a Michael Douglas, hefyd alw arno i beidio â sefyll yn y ras arlywyddol yn erbyn ymgeisydd y Cenedlaetholwyr, Donald Trump.