‘Ddim yr un Joe Biden’: George Clooney ac eraill yn galw ar yr Arlywydd i adael y ras
Mae’r actor George Clooney ymysg y rheini sydd wedi galw ar yr Arlywydd Joe Biden i beidio â sefyll yn yr etholiad arlywyddol nesaf.
Roedd George Clooney wedi cynnal digwyddiad i godi arian ar gyfer ymgyrch Joe Biden fis diwethaf.
Ond mewn darn barn yn y New York Times dywedodd nad oedd Joe Biden yr un dyn ag oedd yn 2020.
"Mae'n gas gen i ddweud, ond nid y Joe Biden roeddwn i gydag ef dair wythnos yn ôl yn y digwyddiad codi arian oedd Joe yn 2010,” meddai.
“Nid oedd hyd yn oed y Joe Biden o 2020. Roedd yr un dyn ag oedden ni wedi ei weld yn y ddadl deledu.
"Dydyn ni ddim yn mynd i ennill ym mis Tachwedd os mai ef yw’r ymgeisydd. Ni fyddwn yn ennill y Tŷ, ac rydym ni'n mynd i golli'r Senedd."
‘Yma i aros’
Dywedodd Nancy Pelosi, cyn llefarydd Tŷ’r Cynrychiolwr a’r fenyw gyntaf i gyflawni’r swydd, bod angen i Joe Biden benderfynu cyn gynted a bo modd os oedd am sefyll.
Mae arweinydd y Democratiaid yn Senedd yr Unol Daleithiau, Chuck Schumer, hefyd wedi dweud y byddai yn agored i weld ymgeisydd arall yn sefyll.
Galwodd y Seneddwr Peter Welch ar Biden i dynnu’n ôl mewn darn barn a gyhoeddwyd yn hwyr ddydd Mercher, y seneddwr Democrataidd cyntaf i alw ar yr arlywydd i gamu o’r neilltu.
Mae rhai Democratiaid wedi cwestiynu a ddylai Mr Biden wynebu Donald Trump yn etholiad arlywyddol y wlad ar ôl atebion tawel ac aneglur yn dilyn dadl deledu gyntaf y ras arlywyddol ar 27 Mehefin.
Dywedodd Mr Biden fod ei berfformiad gwael yn erbyn Donald Trump yn sgil blinder ar ôl teithio o gwmpas y byd cyn y ddadl.
Ond mae'r cyfryngau wedi cyfeirio at y ffaith ei fod wedi bod yn paratoi yn Camp David ar gyfer y ddadl gyntaf yn erbyn Donald Trump am wythnos ar ôl teithio.
Mae Joe Biden wedi dweud yn gyhoeddus mai ei fwriad yw aros yn y ras.
Dywedodd: "Fi yw enwebiad y Blaid Ddemocratiaid. Does neb yn fy ngwthio i allan. Dwi yma i aros."